Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
The Pillowman

The Pillowman

28 Chw - Sad 4 Maw

‘Ar yr eiliad yma, does dim ots gen i os byddan nhw’n fy lladd. Does dim ots gen i. Ond chawn nhw ddim lladd fy straeon. Chawn nhw ddim lladd fy straeon. Dyna’r oll sydd gen i.'

Dwyrain Ewrop, tua 1980. Caiff Katurian, awdur straeon plant dychrynllyd, ei lusgo i gael ei holi gan yr heddlu. Mae rhes o droseddau, sy’n debyg i’w straeon rhyfedd, wedi cael ei datgelu. Ai fe wnaeth eu cyflawni, fel ysbrydoliaeth i’w waith? Neu oes rhywun arall yn dynwared yr ymddygiad? Os mai dynwared sy’n digwydd, oes ganddo fe, fel awdur, rywfaint o gyfrifoldeb am y troseddau yma? A beth yw cysylltiad ei frawd, Michal difrodedig, gyda’r troseddau? Gyda’r cloc yn tician a’i ddienyddiad yn agosáu, sut gall Katurian argyhoeddi’r heddlu cudd mai dim ond ysgrifennu straeon mae e?

 

Mae sgriptiwr sydd wedi ennill Oscar, Martin McDonagh (In Bruges, Three Billboards Outside Ebbing Missouri, The Banshees of Inisherin) yn syfrdanu unwaith eto gyda drama sy’n mynd â ni i fyd tylwyth teg tywyll yn nhraddodiad gorau’r Brodyr Grimm. Disgrifiwyd The Pillowman fel drama “hynod frawychus a gwirioneddol ddychrynllyd” ac meddai’r New York Times “Weithiau dydych chi ddim yn gwybod am beth rydych chi’n awchu tan i’r peth go iawn eich cyrraedd”.

Prisiau:

£16/ £14 concessions | consesiynau

16+

Content Warnings: Contains graphic scenes and content including violence, explicit language, suicide, torture, police brutality, and child abuse. 

 

Tocynnau ac Amseroedd