
Dychmygwch fyd lle mae’r llinellau sy’n gwahanu dynoliaeth ac anifeiliaid yn aneglur, lle mae coedwigoedd tywyll yn cynnig lloches ynghyd â pherygl, a lle nad yw gwaed bob amser yn dewach na dŵr.
The Devil’s Violin yw Daniel Morden (stori), Oliver Wilson-Dickson (ffidil) a Sarah Moody (sielo). Mae eu sioe newydd yn dapestri o straeon wedi’u plethu’n feistrolgar am ein canfyddiad o harddwch a gwerth caredigrwydd.
“Mewn blynyddoedd i ddod, bydd hen ffrindiau’n troi at ei gilydd ac yn cofio heno, gan ail-fyw’r pleser pan ddaeth The Devil’s Violin i’r dre gyda synhwyrau’r 21ain ganrif i wella’r grefft hynafol o adrodd straeon.” Avril Silk
“Cyfuniad syfrdanol o gerddoriaeth, sain a stori.” The Times
www.thedevilsviolin.co.uk/tour-dates
Mae Daniel Morden wedi plesio cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’i berfformiadau, gan gynnwys gwyliau adrodd straeon Vancouver, Oslo a Yukon, yn Beyond The Border, gwyliau Caerfaddon a Cheltenham ac mewn lleoliadau ledled Prydain. Cafodd Fedal Gŵyl y Gelli am ei gyfraniad i adrodd straeon.
Mae Sarah Moody wedi gweithio fel cerddor gyda chwmnïau fel Kneehigh, London Bubble a Wildworks ac mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth i ddramâu Radio’r BBC a sawl cwmni theatr fel Travelling Light a Stuff & Nonsense. Mae’n chwarae ag amrywiaeth o fandiau ac yn recordio fel cerddor sesiwn.
Mae Oliver Wilson-Dickson yn chwarae gyda Mabon gan Jamie Smith a’r triawd ALAW. Mae’n cydweithio’n rheolaidd gyda Daniel Morden a gyda’r acordionydd Luke Carver Goss. Mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau llwyfan a drama ar BBC Radio 4. Mae hefyd yn chwarae ym mand y tŷ ar Noson Lawen.
Gwen 1 Gor, Gwen 15 Gor, Gwen 5 & Gwen 19 Awst