Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Striking Attitudes: Undercover

Iau 23 - Sad 25 Chw

Gwaith graddfa fawr newydd gan Striking Attitudes yw UNDERCOVER. Perfformiad promenâd, arddangosfa, a chyflwyniad amlgyfrwng deinamig o ddawns, theatr, ffotograffiaeth, barddoniaeth, fideo, cerddoriaeth a thecstilau.

Perfformiad promenade sy'n cymryd rhan yn First Space/ Peilot ac y Stiwdio.

Mae UNDERCOVER yn gronicl o’n hoes – yn ymateb i’r pandemig a newid hinsawdd, yn dapestri enfawr o straeon yn Gymraeg a Saesneg. Wedi’i hysbrydoli gan flanced Gymreig, mae’r sioe’n archwilio sut mae’r ‘hysbys’ wedi dod yn ‘anhysbys’, a’r ‘arferol’ bellach yn ‘anarferol’. Archwiliad o ba mor ansicr gall bywyd fod, a sut gall y byd droi ar ei ben.

Yn cynnwys rhestr anhygoel o ymarferwyr creadigol o bob rhan o Gymru, gan gynnwys Michal Iwanowski, Iestyn Tyne, Llio James, Dan Swain, Becky Davies a Marega Palser, caiff UNDERCOVER ei arwain gan y Cyfarwyddwr Artistig, Caroline Lamb, gyda Janet Fieldsend, Aleksandra Nikolajev Jones, June Campbell Davies, Geraldine Hurl a Dawns i Bawb.

Cefnogir UNDERCOVER gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Chapter a Dawns i Bawb.

Cwmni theatr dawns proffesiynol yw Striking Attitudes sy’n creu gwaith sy’n dathlu’r dawnsiwr hŷn ac yn amlygu eu nodweddion unigryw. Mae’n sefydliad a gaiff ei redeg gan, ar gyfer, a gyda phobl hŷn. Mae eu gwaith yn ehangu ansawdd bywyd ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at y cysyniad o heneiddio’n gadarnhaol.

www.strikingattitudes.com

Prisiau:

£12 / £10

Duration: 1 hr

Age guidance: 12+

Tocynnau ac Amseroedd