Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Saving Britney

Saving Britney

Llythyr serch doniol a thorcalonnus i’r nawdegau drwy lygaid cefnogwr mwyaf y Dywysoges Pop.
“Fe gwympais i mewn cariad yn syth. O’r eiliad y gwelais i hi ar CD:UK. Cat Deeley’n ei chyflwyno hi fel taw hi oedd Ioan Fedyddiwr yn paratoi’r llwybr i’r Arglwydd...” 

Wedi’i ysbrydoli gan ymgyrch #FreeBritney, mae Saving Britney yn olwg doniol a thorcalonnus ar obsesiwn ag enwogion, rhywioldeb, a thyfu i fyny ar ddechrau’r nawdegau; gan gynnig mwy o nostalgia na siop lawn Tamagochis! 

Fe wnaeth y genhedlaeth filenial fel Jean dyfu i fyny gyda Britney Spears. Dros gyfnod o awr, rydyn ni’n gweld sut dylanwadodd y Dywysoges Pop ar ei bywyd, a sut mae’r cysylltiadau a rannwyd rhyngddynt yn arwain at eiliad anghredadwy o hunanddarganfod.

Saving Britney oedd y sioe gyntaf i gael ei dangos yn Theatr yr Old Red Lion yn Llundain ar ôl 425 o ddiwrnodau ar gau, a bu yno am dair wythnos gyda chynulleidfaoedd llawn. Cafodd adolygiadau gwych ac fe’i henwebwyd am ddwy Wobr OffWestEnd.

"Mae Roushbaiani yn cynnig dosbarth meistr go iawn" ★★★★★ Broadway Baby
"Fydd cefnogwyr Britney ddim eisiau ei fethu" ★★★★★ WestEndWilma

Prisiau:

£12, £10

Duration: 70mins
No latecomers 
Age guidance: 12+ (strong language and flashing lights)

-

Hyd: 70munud
Ni chaniateir cyrraedd yn hwyr
Canllaw oedran:
 12+ (iaith gref a goleuadau sy'n fflachio)

-

Unallocated seating - for your comfort and safety, we're selling at a reduced capacity.  

COVID safety: We have a number of measures in place to ensure that your visit is enjoyable and as safe as possible. Find out more here.

Tocynnau ac Amseroedd