Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
Mark Simmons: Quip Off the Mark
Sold Out

Mark Simmons: Quip Off the Mark

Llun 1 Ion 0001 - Gwen 9 Rhag 2022
Seligman Theater

Mae meistr y jôcs un-llinell, Mark Simmons, yn cyflwyno ei sioe newydd sbon, Quip Off The Mark.

Nid sioe jôcs un-llinell gyffredin mo hon – mae thema’n rhedeg drwyddi! Eleni, gwerthodd rhieni Mark y tŷ lle cafodd ei fagu, ac roedd yn rhaid iddo gasglu ei bethau o’r atig. Ymunwch â ni i ddarganfod beth sydd yn y bocs yn y sioe ddoniol yma sydd â strwythur na welsoch chi erioed o’r blaen.

“…jôc un-llinell ar ôl y llall, yn llythrennol, gyda seibiant neu ddau i’r gynulleidfa ddal eu gwynt, cyn ymosodiad arall ar y chwerthin a’r cyhyrau”. One4Review ★★★★★

Mae Mark wedi ymuno â Dara Ó Briain a Hugh Dennis ar Mock the Week BBC2 yn ddiweddar fel gwestai lled-reolaidd ar y sioe, ac mae bellach yn cyflwyno ei sioe hir-ddisgwyliedig ei hunan. Mae hefyd wedi bod yn ymddangos ar DIY Pundit a The Rugby’s On ar BT Sport.

Mae Mark hefyd wedi ymddangos mewn sioeau teledu eraill fel Out There ar ITV, BBC Radio 4ExtraStands Up, peilot ar Channel4 yn serennu ochr yn ochr â Bridget Christie, yn ogystal â One For The Road ar BBC3.

Ymddangosodd Mark yn rhestr fawreddog ‘Best Joke of The Fringe’ Dave yn dilyn Gŵyl Caeredin yn 2017 a 2019. Mae ei sioeau unigol diweddar yn yr ŵyl wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan werthu pob tocyn bob dydd, a chael enwebiad am y Sioe Orau gan Wobrau Comedi Amused Moose 2017. Mae hefyd modd ei weld ar daith yn cefnogi pobl fel Rob Brydon, Seann Walsh, a Rob Beckett.

“Hollol ddoniol.” The Scotsman ★★★★

“Digrifwr dawnus gydag amgyffrediad crefftwr o lunio jôcs.” Chortle ★★★★

Top 10 Joke of the Fringe DAVE 2019 (a 2017)

Enwebai Amused Moose: Sioe Orau 2017

Prisiau:

£12 / £10

Ages / Oedran 14+

Latecomers welcome / Croeso i hwyrddyfodiaid


Unallocated seating - sold at full capacity 

COVID safety: We have a number of measures in place to ensure that your visit is enjoyable and as safe as possible. Find out more here.

Tocynnau ac Amseroedd