
Mae anifeiliaid yn wyllt, yn dilyn eu greddf. Does dim ots ganddyn nhw am y ffordd maen nhw’n edrych na chwaith beth rydyn ni’n ei feddwl ohonyn nhw. Maen nhw’n edrych ar ôl eu hanghenion eu hunain ac anghenion eu haid, eu praidd, eu llwyth a’u cynefin.
Mae Fabulous Animals yn berfformiad theatr ddawns beiddgar sy’n archwilio ail-wylltio’r corff a’r hunan. Cofleidio ymddygiadau anifeilaidd i ddatgloi harddwch, ecoleg a llawenydd hoyw.
Mae Joon Dance yn gwmni bach sydd wedi’i ymrwymo i ymarfer a perfformio cynhwysol ac arloesol yn y gymdeithas, gan weithio’n bennaf yn Sir Benfro a Chaerdydd.