Nodweddion
Ymunwch â ni mewn noson o diwns, caneuon a dawns Wyddelig gyda’r artist Eimear Walshe a’u cydweithwyr i ddathlu agoriad arddangosfa Walshe MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC.
6-8pm: Rhagddangosiad o’r arddangosfa (does dim angen archebu)
8pm tan yn hwyr: Parti agoriadol (mae angen archebu)
___
Ynglŷn â'r artistiaid
Artist o Longford, Iwerddon yw Eimear Walshe (g.1992, nhw). Mae eu gwaith yn olrhain gwaddol y gwrthdaro am dir yn Iwerddon yn y bedwaredd ganrif ar ddeg drwy eiddo preifat, ceidwadaeth rywiol, a’r amgylchedd adeiledig. Maen nhw wedi arddangos yn ddiweddar gyda Van Abbemuseum, EVA International, y National Sculpture Factory, Temple Bar Gallery + Studios, ac mae eu gwaith wedi’i gadw yng nghasgliadau Cyngor Celfyddydau Iwerddon ac Amgueddfa Celf Fodern Iwerddon.
Artist perfformio/lleisydd/cyfansoddwr yw Dylan Kerr sy’n byw rhwng Iwerddon a Berlin. Maen nhw’n gweithio ym maes cyfansoddi proses, tonyddiaeth gywir a gwaith byrfyfyr, ac yn cyfuno’u llais a’u hofferynnau gyda dulliau electro-acwstig amrywiol.
Cyfansoddwr ac aml-offerynnwr a aned ar arfordir De Fermanagh yw Róis. Mae ei gwaith yn gyfuniad hynod o ganeuon gwerin a Sean-nós, electroneg, harmoni jazz a thechnegau llais estynedig.
Aml-offerynnwr a chyfansoddwr sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth draddodiadol ac arbrofol yw Seamas Hyland. Mae’n mwynhau archwilio gallu sonig amrywiol yr acordion botymau a chreu tirweddau tonyddol gan ddefnyddio’r recordiadau maes mae’n eu casglu. Rhyddhaodd ei albwm unigol gyntaf ‘Maidin Domhnaigh’ yn ddiweddar.
Prosiect radio yw Know Yourself gan yr artist Gwyddelig-Lebanaidd, Colm Keady-Tabbal.
___
Cefnogir gan Culture Ireland.
__
Llun: Emil Hernon
Times & Tickets
-
Dydd Gwener 28 Chwefror 2025