Music
Papa Jupe's TC: Jupe in the Flesh
- 2h 0m
Nodweddion
- Hyd 2h 0m
Gyda dylanwadau ôl-bync, syrffio, disgo, a gospel, mae Papa Jupe’sT.C., yn cyflwyno eu EP sydd newydd ei ryddhau – Jupe in the Flesh. Cloddiwch fewn i berfformiad slebogaidd y band 7-darn o Gaerdydd wrth iddyn nhw ddychanu gwrywdod, gwleidyddiaeth a grym.
Mae’r band wedi bod yn rym eginol yn y sin gerddoriaeth Gymraeg fywiog, gydag enw da cynyddol am berfformiadau byw theatrig.
Yn ogystal â bod ar restr fer Cystadleuaeth Greenman Rising, mae’r band hefyd wedi cefnogi’r ceffylau blaen indie English Teacher ar eu prif daith o amgylch y DU, wedi ymddangos yn nigwyddiad Codi Arian 2023 Trans Aid Cymru ac wedi chwarae cyfres o brif gigs lle y gwerthwyd yr holl docynnau.
Mae Papa Jupe’s T.C. yn eich gwahodd i ymuno â chwlt Papa Jupe. Daw achubiaeth i'r rhai sy'n aros. Ymunwch â'r Tarw.
+ Cefnogaeth gan Small Miracles
Mae’r band Small Miracles yn cael eu sbarduno gan yr awydd i herio’r status quo gyda’u cerddoriaeth, a lledaenu cariad a llawenydd drwy eu perfformiadau byw. Mae eu sioeau byw yn brofiad cathartig sy’n dod â chynulleidfaoedd at ei gilydd i fynegi eu cynddaredd a’u rhyddhad. Mae’n cynnig neges o undod cwiar ac anghydffurfiaeth sy’n troedio rhwng rheolaeth ac anhrefn, mor ymosodol ag y mae’n fregus.
Mae Small Miracles wedi cael cefnogaeth radio gan 6Music, BBC Introducing, Amazing Radio a mwy. Gydag Adam Walton yn cyfeirio atyn nhw fel 'gwreiddiol a chwbl gymhellol', mae Small Miracles yn fand gwerth ei weld. Cafodd ei EP ddiweddaraf, 'Live at Rockfield' ei rhyddhau ar 1 Rhagfyr 2023 ar Dirty Carrot Records.
More at Chapter
-
- Performance
Dan Johnson: Ecstatic Drum Beats
Ecstatic Drum Beats brings young people together for a series of 10 experimental percussion and performance workshops to explore and celebrate our collective creative potential.
-
- Performance
Making Merrie (A Modern Mummers Play, with Baskets)
Perfformiad sy'n addas i'r teulu, Making Merrie yn dathlu Hen Galan, y Flwyddyn Newydd Hen Gymraeg.
-
- Performance
A Year of Deep Listening: Performance and Book Launch
Ymunwch â ni mewn penwythnos o weithgarwch wedi’i guradu gan yr artist preswyl a’r hwylusydd Gwrando Dwfn,Dan Johnson, i ddathlu cyhoeddi A Year of Deep Listening.
-
- Performance
Wet Mess: TESTO
In TESTO, Wet Mess wet-messifies transitions, testosterone and the edges of drag.