Film

The Life and Death of Colonel Blimp

  • 2h 37m

Nodweddion

  • Hyd 2h 37m

Prydain | Michael Powell, Emeric Pressburger | Roger Livesey, Deborah Kerr, Anton Walbrook


Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae’r Cadfridog Clive Wynne-Candy yn gyn-filwr sy’n goruchwylio carfan o ddynion nad ydyn nhw’n ei barchu, ond doedd pethau ddim bob amser fel hyn. Rydyn ni’n mynd yn ôl i edrych ar ei ddyddiau fel swyddog ifanc golygus yn Rhyfel y Boer a’r Rhyfel Byd Cyntaf, pan gafodd ei fywyd ei siapio gan dair menyw wahanol (sydd oll yn cael eu chwarae gan Deborah Kerr) a’i gyfeillgarwch barhaus gyda milwr o’r Almaen. Roedd Winston Churchill o’r farn bod y ffilm yma’n anwladgarol, ac fe geisiodd ei hatal rhag cael ei rhyddhau, ond mae bellach wedi’i chydnabod fel campwaith gwaith ffilm yr ugeinfed ganrif. Ffilm gyfoethog, gynnil, dywyll, ffraeth a dyngarol, gyda ffotograffiaeth hyfryd gan Jack Cardiff, a pherfformiad gorau ei yrfa gan y bachgen o’r Barri, Roger Livesey. 

Dangosiad yn rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger.

Welsh Legend: Roger Livesey 

Sefydlodd Powell a Pressburger stiwdio The Archers gyda’r nod o gael y doniau gorau yn y wlad, ac yn rhan allweddol o’r grŵp actio oedd Roger Livesey a aned yn y Barri. Mae llinach actio Livesey yn barod i’w hail-ddarganfod gan Gymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i gyflwyno dwy o’i ffilmiau gorau i chi – ffilm epig wrth-ryfel The Life and Death of Colonel Blimp a’r gomedi ramantus I Know Where I’m Going, gyda sgwrs â darluniau gan yr hanesydd ffilm Mark Fuller gan ddefnyddio eitemau o archif y BFI.  

Share