Film
Out of Their Depth: Three Days of the Condor (15)
- 1975
- 1h 58m
- USA
£7 - £9
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Sydney Pollack
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 1975
- Hyd 1h 58m
- Tystysgrif 15
- Math Film
Cafodd Robert Redford a’r cyfarwyddwr Sydney Pollack berthynas gydweithio hir a llwyddiannus yn cynhyrchu sawl ffilm lwyddiannus yn y saithdegau, fel Jeremiah Johnson (1972) a The Way We Were (1973).
Yn y ffilm yma, maen nhw’n cyfleu pryder gwleidyddol y cyfnod, gyda byrgleriaethau Watergate yn y penawdau newyddion yn ddi-baid (byddai Redford yn mynd ymlaen i drin Watergate yn uniongyrchol yn All the President’s Men yn 1976). Yma mae’n chwarae rhan Joe Turner – dadansoddwr iau yn y C.I.A sy’n craffu ar destunau wedi’u cyhoeddi ledled y byd i chwilio am negeseuon cod – sy’n dychwelyd o’i awr ginio i ganfod bod ei fyd wedi’i droi ben i waered. Heb wybod yn sicr pwy mae’n gallu ymddiried ynddyn nhw, mae’n mynd i chwilio am atebion.
Gan ddefnyddio fformat sefydledig ‘y diniwed ar ffo’, mae Three Days of the Condor yn datblygu fel ffilm gyffro wleidyddol ddwys sy’n mudferwi yn amheuaeth a llygredigaeth y saithdegau. O blith y ffilmiau yn nhymor ffilmiau Allan o’u Dyfnder, persona Redford sydd debycaf i’r prif gymeriad gwrywaidd Hollywood nodweddiadol wrth iddo fynnu atebion, ond eto yma mae ei gymeriad yn ansicr am effaith ei weithredoedd a maint gwirioneddol y llygredigaeth a’r cynllwyn mae’n ei wynebu.
_____
Allan o'u Dyfnder
Wedi trawsnewid diwylliannol a thensiynau hil y chwedegau, ar ddechrau’r saithdegau roedd America mewn cythrwfl cymdeithasol a gwleidyddol cynyddol, wrth i wrthwynebwyr Rhyfel Fietnam ddod yn fwyfwy treisgar ar ôl clywed am greulondeb lluoedd America, ac yn nes at adre roedd graddfa lawn sgandal Watergate yn dechrau dod i’r amlwg.
Nid yn unig roedd gwerthoedd America fodern wedi’u sigo; dangoswyd eu bod nhw’n llawn llygredigaeth, sgandal a chelwyddau.
Cafodd yr anesmwythder mawr yma ym meddylfryd prif ffrwd America ei adlewyrchu yn ffilmiau Hollywood Newydd y cyfnod, lle cafodd arwr gwrywaidd traddodiadol yr oes stiwdio glasurol ei ddisodli gan brif gymeriad a fyddai, er eu bod yn teimlo mewn rheolaeth, yn gynyddol allan o’u dyfnder.
Mae’r tymor yma wedi’i guradu gan sylfaenydd Cinema Rediscovered, Mark Cosgrove.
Rhaghysbysebion a chlipiau
Times & Tickets
-
Dydd Mercher 22 Ionawr 2025