Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Alan J Pakula
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 1974
- Hyd 1h 42m
- Tystysgrif 15
- Math Film
Mae cynllwyn a pharanoia yn treiddio drwy bob ffrâm yn y ffilm yma; mae hyd yn oed y bensaernïaeth a’r trac sain yn cyfleu anghyseinedd ac anesmwythder. Gwnaed y ffilm ddwy flynedd cyn ffilm Watergate ddiffiniol Pakula, All the President’s Men, ac yma mae Warren Beatty yn newyddiadurwr sy’n cael ei ddal yng nghanol ôl-ddigwyddiadau llofruddiaeth ymgeisydd arlywyddol yn Space Needle Seattle – dilyniant agoriadol syfrdanol o ddramatig.
Yn wahanol i’r newyddiadurwyr dewr ac arwrol Woodward a Bernstein, a chwaraeir gan Redford a Hoffman, mae’r newyddiadurwr Beatty yn cael ei dynnu’n ddyfnach i’r cynllwyn corfforaethol a gwleidyddol sy’n ei amgáu, ac yn hytrach nag arwain at ddatgeliad – cawn ddiweddglo sydd, yn hytrach, yn atseinio diweddglo dinistriol Chinatown.
Mae cyfansoddiadau steilus a digynnwrf y sinematograffydd Gordon Willis yn rhoi mynegiant gweledol i naws yr ymdeimlad treiddiol o ofn a diffyg ymddiriedaeth a ddiffiniodd y saithdegau.
______
Allan o'u Dyfnder
Wedi trawsnewid diwylliannol a thensiynau hil y chwedegau, ar ddechrau’r saithdegau roedd America mewn cythrwfl cymdeithasol a gwleidyddol cynyddol, wrth i wrthwynebwyr Rhyfel Fietnam ddod yn fwyfwy treisgar ar ôl clywed am greulondeb lluoedd America, ac yn nes at adre roedd graddfa lawn sgandal Watergate yn dechrau dod i’r amlwg.
Nid yn unig roedd gwerthoedd America fodern wedi’u sigo; dangoswyd eu bod nhw’n llawn llygredigaeth, sgandal a chelwyddau.
Cafodd yr anesmwythder mawr yma ym meddylfryd prif ffrwd America ei adlewyrchu yn ffilmiau Hollywood Newydd y cyfnod, lle cafodd arwr gwrywaidd traddodiadol yr oes stiwdio glasurol ei ddisodli gan brif gymeriad a fyddai, er eu bod yn teimlo mewn rheolaeth, yn gynyddol allan o’u dyfnder.
Mae’r tymor yma wedi’i guradu gan sylfaenydd Cinema Rediscovered, Mark Cosgrove.