Film

Out of Their Depth: Chinatown (15)

15
  • 1974
  • 32h 54m
  • USA

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Roman Polanski
  • Tarddiad USA
  • Blwyddyn 1974
  • Hyd 32h 54m
  • Tystysgrif 15
  • Math Film

Mae Faye Dunaway a Jack Nicholson yn serennu gydag L.A. y tridegau yn gefndir, sy’n ferw o lygredigaeth mewn naratif sydd wedi’i wreiddio’n gadarn mewn realiti hanesyddol. Roedd Robert Towne yn sgriptiwr canolog a oedd wrth wraidd sgriptiau craff a chymdeithasol gydwybodol yr Hollywood Newydd. Roedd ei fys ar y pwls gyda’r newidiadau diwylliannol dramatig oedd yn digwydd yn America, a gallai grefftio straeon sinemataidd â phlot tynn gyda deialog ddilys. Gyda chredyd iddo neu beidio, chwaraeodd Towne ryw ran ym mwyafrif ffilmiau arloesol y cyfnod fel The Last Detail, The Parallax View a Shampoo.

Roedd ei sgript, a enillodd wobr Oscar i Chinatown, yn fwy o brosiect personol a ddeilliodd o’i gariad at bensaernïaeth Los Angeles yn y tridegau a’i ddiddordeb yn hanes y ddinas. Sianelodd y cariad hwn drwy strwythur nofel dditectif pylp glasurol tebyg i Dashiell Hammett neu Raymond Chandler.

Cymerodd y cyfarwyddwr Roman Polanski y sgript i greu un o ffilmiau mwyaf perffaith ac uchel eu parch y cyfnod: astudiaeth haenog o bŵer a llygredigaeth gyda chanlyniadau emosiynol dinistriol. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, er bod Polanski ei hunan yn ffigwr dadleuol, mae’r ffilm yn parhau i daro tant â gwylwyr a beirniaid ffilm, gyda llawer ohonynt wedi cyfeirio ati fel y ffilm orau erioed.

____

Allan o'u Dyfnder: Llygredigaeth, Sgandal a Chelwyddau yn yr Hollywood Newydd

Wedi trawsnewid diwylliannol a thensiynau hil y chwedegau, ar ddechrau’r saithdegau roedd America mewn cythrwfl cymdeithasol a gwleidyddol cynyddol, wrth i wrthwynebwyr Rhyfel Fietnam ddod yn fwyfwy treisgar ar ôl clywed am greulondeb lluoedd America, ac yn nes at adre roedd graddfa lawn sgandal Watergate yn dechrau dod i’r amlwg.

Nid yn unig roedd gwerthoedd America fodern wedi’u sigo; dangoswyd eu bod nhw’n llawn llygredigaeth, sgandal a chelwyddau.

Cafodd yr anesmwythder mawr yma ym meddylfryd prif ffrwd America ei adlewyrchu yn ffilmiau Hollywood Newydd y cyfnod, lle cafodd arwr gwrywaidd traddodiadol yr oes stiwdio glasurol ei ddisodli gan brif gymeriad a fyddai, er eu bod yn teimlo mewn rheolaeth, yn gynyddol allan o’u dyfnder.

Mae’r tymor yma wedi’i guradu gan sylfaenydd Cinema Rediscovered, Mark Cosgrove.

Share

Times & Tickets