Film
Orlando, My Political Autobiography (12A)
- 1h 39m
Nodweddion
- Hyd 1h 39m
Ffrainc | 2023 | 99’ | 12A | Ffrangeg a Saesneg gydag isdeitlau Saesneg | Paul B Preciado
Gan gymylu’r llinellau rhwng realiti a ffuglen, dyma ffilm ddogfen ddiddorol gan yr awdur traws Paul B Preciado, sy’n ffigwr blaenllaw ym maes astudio rhywedd a gwleidyddiaeth corff. Llythyr serch chwareus, teimladwy a sinematig sy’n ehangu nofel Virginia Woolf, Orlando: A Biography, lle mae’r prif gymeriad yn newid rhywedd yng nghanol y stori i ddod yn fenyw 36 oed. Ffilm sy’n addas i bawb ac sy’n ein gwahodd ni i edrych ar 26 o bobl draws ac anneuaidd rhwng 8 a 70 oed sy’n ymgorffori cymeriad Orlando, gan ddangos bod y cymeriad wedi codi o ffuglen i fyw bywyd cyfoethog na fyddai wedi gallu’i ddychmygu.