Film

Occupied City + live streamed Q&A

  • 4h 26m

Nodweddion

  • Hyd 4h 26m

Occupied City gyda sesiwn holi ac ateb fyw gyda Steve McQueen a Bianca Stigter

Ble mae atgofion dinas yn mynd? Gan wneuthurwr ffilm sydd wedi ennill gwobr Oscar a BAFTA ac artist gweledol sydd wedi ennill gwobr Turner, Steve McQueen, daw’r archwiliad hudolus a nodedig yma o sut mae’r gorffennol yn aflonyddu ar ein presennol ansicr: gan ei adlewyrchu a’n rhybuddio ni o dan ein trwynau.

Wedi’i llywio gan y llyfr Atlas of an Occupied City: Amsterdam 1940-1945 a ysgrifennwyd gan Bianca Stigter, mae’r ffilm ddogfen yma’n creu dau bortread sy’n cyd-gloi. Mae un yn dangos meddiannaeth ddinistriol y Natsïaid ar y ddinas drwy gyfrifon drws i ddrws – chwedlau am erledigaeth yr Iddewon, gwrthsafiad, cydweithio, dewrder a gwadu. Mae’r llall yn daith fywiog drwy flynyddoedd olaf y pandemig a phrotest. Mae’r cyfuniad yn creu effaith drawsnewidiol y mae McQueen yn ei defnyddio i agor gofod barddonol a breuddwydiol lle mae hanes annirnadwy a gobaith am ddyfodol newydd yn cyd-fodoli.

Hyd y ffilm yw 266 munud, gan gynnwys egwyl 15 munud yn ei chanol. Yn dilyn y dangosiad bydd sgwrs gyda Steve McQueen a Bianca Stigter, a ddarlledir yn fyw o’r Barbican yn Llundain. Bydd y digwyddiad yn dod i ben am 19:05.

“Syfrdanol ac yn ffurfiol drylwyr” #4 - Manohla Dargis, Best Movies of 2023, The New York Times

“Campwaith unigol” - Irish Times ★★★★★

“Astudiaeth hypnotig o Amsterdam sy’n dal i gael ei harswydo gan y Natsïaid” - Daily Telegraph ★★★★

Share