Workshops

Oasis One World Choir Refugee Week workshop

  • 2h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 2h 30m
  • Math Workshops

Ymunwch â ni yn ystod yr Wythnos Ffoaduriaid mewn gweithdy canu awr o hyd gyda Chôr Un Byd Oasis. Yn dilyn y sesiwn bydd perfformiad am ddim yn y caffi bar.

Mae Côr Un Byd Oasis yn croesawu pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru. Drwy ddawnsio a chanu am heddwch ac undod, mae eu hoptimistiaeth heintus yn chwalu rhwystrau i gefnogi pawb i deimlo’n ddiogel ac wedi’u gwerthfawrogi.

Ar adeg pan fydd pobl sy’n ceisio noddfa yn wynebu amgylchedd cynyddol elyniaethus, mae Côr Un Byd Oasis am ailgyfeirio’r boen drwy gyfansoddi, canu a pherfformio gyda’i gilydd, gan rannu eu meddyliau a chynnig gobaith. Maen nhw hefyd yn mynd â’u perfformiadau ar daith, gan rannu eu cyfoeth unigryw o ddiwylliant.

Mae Côr Un Byd Oasis yn creu cerddoriaeth ar gyfer harddwch, hawliau dynol, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant.

Ynglyn â'r artistiaid...

Mae Côr Un Byd Oasis yn croesawu pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghaerdydd a’r gymuned ehangach. Eu nod yw dysgu gan y rhai sy’n cysylltu gyda nhw – gan rannu, tyfu ac ymffurfio gyda’i gilydd. Mae eu côr yn achubiaeth i lawer o bobl sy’n wynebu gorfod ailddechrau eu bywyd mewn gwlad newydd, a hynny yn aml mewn iaith gwbl newydd. Mae cerddoriaeth yn goresgyn y rhwystrau yma, ac mae’r côr yn galluogi pobl i wneud ffrindiau newydd a chreu cymuned gyda’i gilydd.

Share