Film
NT Live: Present Laughter (PG)
- 2h 42m
Nodweddion
- Hyd 2h 42m
- Math Film
Present Laughter
gan Noël Coward
Mae’r cynhyrchiad o gomedi bryfoclyd Noël Coward sydd wedi ennill gawl gwobr, gydag Andrew Scott (Vanya, Fleabag) yn serennu, yn dychwelyd i’r sgrin fawr.
Wrth iddo baratoi i fynd ar daith dramor, mae bywyd lliwgar yr actor enwog Garry Essendine mewn peryg o fynd allan o'i reolaeth. Wedi'i lethu gan argyfwng hunaniaeth cynyddol, ac wrth i'w berthnasau niferus ac amrywiol gystadlu i gael ei sylw, mae'r ychydig ddyddiau sydd gan Garry ar ôl adre'n drowynt o gariad, rhyw, panig a hunanholi.
Ffilmiwyd yn fyw o’r Old Vic yn Llundain yn ystod rhediad a werthodd bob tocyn yn 2019, gyda Matthew Warchus (Matilda The Musical) yn cyfarwyddo’r myfyrdod yma ar enwogrwydd, awydd ac unigrwydd, sy’n benfeddwol ac yn annisgwyl o fodern.