Performance

Nosweithia Vogue

  • 4h 30m

£12 - £14

Nodweddion

  • Hyd 4h 30m
  • Math General Entertainment

Rhybudd Cynnwys: Goleuadau’n fflachio, cynnwys anweddus, iaith anweddus | Croeso i bobl gyrraedd yn hwyr

___

Mae Nosweithia Vogue yn dathlu diwylliant a chymunedau Dawnsfa yng Nghymru a’r cyffiniau.

Mae cymuned yn allweddol.

Drysau ar agor o 6pm ymlaen
Galw’r enwau’n dechrau am 7pm

Y beirniaid, cyflwynydd a DJs i’w cyhoeddi...

Cofrestrwch am docynnau cerdded £5, i aros am eich cod gostyngiad.

___

Ynglun â'r artistiaid

Mae Cymuned Dawnsfa Cymru (WBC) wedi dod i’r amlwg fel pinacl ar gyfer hunaniaeth LHDTC+ a diwylliant y ddawnsfa yng Nghymru, ers ei sefydlu yn ystod y cyfnod clo yn 2020. Fe’i sefydlwyd dan arweiniad a gweledigaeth Leighton Rees Milan a Goruchwyliwr Prydain Kyle London Tisci o The Impeccable Haus of Tisci. Drwy eu cydweithio, mae WBC bellach yn ddathliad bywiog o amrywiaeth, gan gynnig llwyfan diogel a rhydd i unigolion o bob cefndir fynegi’u hunain yn greadigol.

Ochr yn ochr â Chymunedau Dawnsfa ledled y byd, mae Caerdydd bellach yn ganolfan ar gyfer diwylliant y Ddawnsfa yng Nghymru, gyda chymuned sy’n tyfu ac yn ffynnu’n barhaus. Ers iddo gael ei greu gan fenywod Traws Du a Latina, mae diwylliant y Ddawnsfa wedi chwarae rhan bwysig yng nghymunedau LHDTC+ America, yn enwedig gyda chyfranogwyr yn ffurfio ‘tai’ a oedd yn gweithredu fel dewis deulu.

Share

Times & Tickets