Performance

Nookee Presents: South China Sea + Elis Penri

  • 3h 0m

Nodweddion

  • Hyd 3h 0m
  • Math Music

Mae Roccoco yn cyflwyno perfformiad arbennig o albwm gysyniadol fyw NOOKEE: CLAROSCURO, sy’n daith synhwyraidd o arbrofi gyda sain, delweddau, ac adrodd straeon.    

Mae menyw’n nofio mewn môr cynnes, ei phen uwch y dŵr. Mae’r môr yn oeri, ac mae’n dechrau suddo i’w ddyfnderoedd, gan ymddangos i’w hunan fel octopws. Mae’n cyrraedd ystafell fwyta’r diafol, dan lygad marmor y twyllwr. Wrth iddi frwydro allan o’r ffau a nofio’n nes at yr wyneb, mae’r Dwyfol yn dod ati, sy’n ei hatgoffa nad yw ei thaith drosodd... 

+ Cefnogaeth gan Elis Penri

Ar ffo o fynyddoedd Cymru, mae Elis Penri’n dod â barddoniaeth a straeon melodaidd i’w sioe, gyda harmonica a gitâr a fyddai’n swyno neidr.


Ynglŷn â'r artist:

Cyfuniad eneidiol o grŵfs ffynci a harmoni ethereal llawn stori.  

Yn fwy o gysylltiad teuluol na band, mae’r ddwy efell sy’n arwain NOOKEE yn plethu harmonïau drwy eu cysylltiad gwaed a synau eu brodyr newydd sy’n goresgyn genres. Heb eu cyfyngu i unrhyw un dull, mae sioe fyw y grŵp yma wedi cael ei chymharu â gwaith Frank Zappa ac Earth, Wind & Fire. Gan ddod â mwy na sain i’r llwyfan, mae’r band chwe rhan yma’n manteisio ar bob elfen o berfformio, gan gynnwys gwisgoedd, propiau, naratif a theatreg. Mae set NOOKEE fel llanw a thrai sonig drwy sbectrwm o emosiynau, gan arddangos lleisiau pwerus canu enaid y saithdegau, grŵfs hypnotig o Samba i Ddisgo, a synau bachog roc seicadelig.  

Share