Film
Nguyễn Trinh Thi: Vietnam The Movie + Letters From Panduranga
- 2h 0m
Free
Nodweddion
- Hyd 2h 0m
Vietnam | 2015 | 18 | 47’ + 35’ | Nguyễn Trinh Thi
Vietnam the Movie
Mae Vietnam the Movie yn defnyddio montage sydd wedi’i llunio’n ofalus o ddarnau o ffilmiau drama a rhaglenni dogfen i roi cyfrif cronolegol o hanes Fietnam o ganol y 1950au i ddiwedd y 1970au, sy’n cynnwys diwedd gwladychiaeth Ffrengig a chyfranogiad America yn Rhyfel Fietnam. Ond nid yw hyn yn wers hanes traddodiadol. Yn hytrach, mae’r darnau a ddewisir yn cyferbynnu gydag amrywiaeth o syniadau allanol sy’n aml yn wrthryfelgar, gan amrywio o ddrama brif ffrwd Hollywood i gelf Ewropeaidd. Mae deunyddiau ffynhonnell o’r UD yn cynnwys ‘Apocalypse Now’, ‘Born on the Fourth of July’ and ‘Forrest Gump’, a chaiff Ewrop ei chynrychioli gan waith Harun Farocki, Rainer Werner Fassbinder, Werner Herzog a Jean-Luc Godard. Mae’r Cyfarwyddwr Nguyễn Trinh hefyd yn defnyddio darnau o ffilmiau Nagisa Oshima, Satyajit Ray ac Ann Hui. Mae’r canlyniad yn awgrymu bod unrhyw lun ‘gwir’ o Fietnam wedi cael ei golli i’r amrywiaeth o ddibenion symbolaidd y defnyddiwyd y wlad, ei phobl a’u trallodau ar eu cyfer.
Letters from Panduranga
Mae’r ffilm draethawd, a grëwyd ar ffurf cyfnewid llythyron rhwng dyn a menyw, wedi’i hysbrydoli gan y ffaith bod llywodraeth Fietnam yn bwriadu adeiladu dwy ffatri pŵer niwclear gyntaf y wlad yn Ninh Thuan (Panduranga gynt), yng nghanolfan ysbrydol pobl frodorol Cham, gan beryglu goroesiad y diwylliant Hindŵaidd matriarchaidd hynafol yma sy’n rhedeg ers bron i ddwy fil o flynyddoedd.
Ar y ffin rhwng dogfen a ffuglen, mae’r ffilm yn symud sylw’r gynulleidfa rhwng blaendir a chefndir, rhwng portreadau clòs a thirweddau pell, gan gynnig myfyrdodau ynghylch gwaith maes, ethnograffeg, celf, a rôl yr artist.
Gan ryngblethu amgylchiadau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, mae’r ffilm hefyd yn datblygu i fod yn brofiad hanesyddol a pharhaus amlochrog o wladychiaeth, ac yn edrych ar y syniadau canolog o bŵer ac ideoleg yn ein bywydau bob dydd.