Events
Neo Soul Jams
Free
Nodweddion
- Math Events
Cyntedd Chapter | 7-10pm | Bob pedwerydd Sul y mis
Profwch y Jam Neo-Eneidiol perffaith, lle mae creadigrwydd a byrfyfyr yn dod yn fyw. Ymunwch â ni mewn noson o gerddoriaeth, cysylltiad, a chydweithio yng nghanol Caerdydd.
Os ydych chi’n jamio, yn rhwydweithio, neu’n mwynhau’r awyrgylch, dyma lle mae sîn gerddoriaeth Caerdydd yn ffynnu.
___
🔥 Awydd bod yn rhan o griw creadigol?
🎷 Mwynhewch waith byrfyfyr byw gan berfformwyr
👥 Cymdeithaswch ac adeiladwch gymuned
✊🏿 Byddwch yn rhan o hyb ar gyfer cerddorion a chynghreiriaid Du ac amrywiol.
🔥 Eisiau perfformio? Dyma sut byddwn ni’n cefnogi cerddorion, cantorion a chynhyrchwyr:
🎤 The Siglo Collective, bydd band enaid cefndirol yn barod i grŵfio gyda’ch syniadau
🎛️ Croeso i dechnegwyr cerdd; dewch â’ch pedal lŵp, eich dyluniad sain, a’ch syniadau ffres
🎹 Cyfle i rwydweithio gydag artistiaid o’r un anian i adeiladu eich band byw a chreu eich sîn.
Lledaenwch y gair a dewch â’ch offeryn, eich llais, neu ddim byd ond eich hunan!
__
Casgleb jazz a ffync yng Nghaerdydd yw The Siglo Collective. Mae eu harbenigedd cerddorol yn cynnig rhywbeth ar gyfer pob math o anghenion cerddoriaeth fyw, o jazz, ffync, enaid, disgo a mwy.
___
Mae ein Jams Jazz Neo-Eneidiol wedi’u cynhyrchu gan Dionne Bennett, Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd Tân Cerdd CIC.
Cwmni Buddiannau Cymunedol dan arweiniad pobl Ddu yw Tân Cerdd, sy’n ymroddedig i hyrwyddo ac eirioli dros gynnwys a dyrchafu artistiaid Du yng Nghymru. Eu cenhadaeth yw grymuso a hyrwyddo lleisiau artistiaid Du, Asiaidd, Aml-Ethnig a dosbarth gweithiol o Gymru, gan sicrhau bod ganddyn nhw’r cyfleoedd a’r seilwaith sydd eu hangen i ffynnu yn y diwydiant cerdd.
Bydd y Jams Jazz Neo-Eneidiol bob pedwerydd Sul y mis, 7-9.30pm
23 Chwefror
23 Mawrth
27 Ebrill
25 Mai
22 Mehefin
27 Gorffennaf
24 Awst
28 Medi
26 Hydref
23 Tachwedd
21 Rhagfyr
Helpwch i ni rannu celf, perfformiadau a ffilmiau.
Gyda’ch cyfeillgarwch chi, byddwch chi’n ein helpu ni i rannu celf gyfoes, perfformiadau a ffilmiau anhygoel o Gymru a gweddill y byd.