Film
Welsh Ballroom yn Cyflwyno: Monica + trafodaeth Mis Hanes LHDTC
- 1h 53m
Nodweddion
- Hyd 1h 53m
UDA | 2022 | 113’ | 15 | Andrea Pollaoro | Trace Lysette, Patricia Clarkson
Pan oedd hi’n ifanc, cafodd Monica ei thaflu o’i chartref gan ei mam Eugenia. Mae hi bellach yn byw yn Los Angeles, yn delio â phoen cariad absennol. Yna, mae ei chwaer yng nghyfraith Laura yn gwahodd Monica adre i Ohio i ofalu am ei mam sâl, ar ôl ugain mlynedd heb ei gweld. Pan mae’n cyrraedd, dydy Eugenia ddim yn ei nabod bellach. Portread hyfryd a chlòs o fenyw Draws sy’n archwilio heneiddio, derbyn a maddeuant.