Film

Mogwai: If the Stars Had A Sound

adv15
  • 2024
  • 1h 30m
  • UK

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Antony Crook
  • Tarddiad UK
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 30m
  • Tystysgrif adv15
  • Math Film

Roedd Mogwai, a ffurfiwyd yn 1995 gan Stuart Braithwaite, Dominic Aitchison a Martin Bulloch, yn allweddol wrth siapio sain ôl-roc. Enillodd y band eu lle gyda’r sengl gynnar Summer, cyn rhyddhau eu halbwm gyntaf Mogwai Young Team yn 1997. Yn y blynyddoedd ers hynny, mae amrywiaeth o aelodau wedi ymuno â’r band ac wedi gadael, ac maen nhw wedi croesawu llu o leiswyr gwadd, gyda’u sain sinemataidd yn gweithio’n dda yng nghyfrwng ffilm, wrth iddyn nhw droi tuag at sgorio ffilmiau. Drwy’r holl newidiadau, mae eu sain wedi cyfoethogi a dod yn gynyddol gymhleth. Dyma’r ffilm ddogfen nodwedd gyntaf i Antony Crook ei chyfarwyddo, sy’n dangos y band wrth iddyn nhw recordio As the Love Continues yn ystod y cyfnod clo, gan edrych nôl ar eu hanes drwy archif gyfoethog o glipiau.

Share

Times & Tickets