Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Repair Café Wales

Caffi Trwsio Treganna

First Space.

 

Casgliad o wirfoddolwyr yw Caffi Trwsio Cymru, sy’n dod at ei gilydd i drwsio eich eitemau am ddim. Eu nod yw lleihau gwastraff, meithrin ymdeimlad o gymuned, ac arbed arian i bobl ar yr un pryd. Felly os oes gennych eitem o’r cartref sydd wedi torri, dewch ag e i’r Caffi Trwsio i’w drwsio am ddim!

Mae gwaith trwsio arferol yn cynnwys: gwaith cynnal a chadw sylfaenol gyda beiciau, trwsio offer trydanol, cymorth gyda chyfrifiaduron, gwnïo, trwsio addurniadau, a gwaith pren, ond byddan nhw’n barod i edrych ar y rhan fwyaf o bethau (heblaw am feicrodonau gan eu bod nhw’n rhy beryglus).

Unrhyw gwestiynau? Anfonwch neges at Caffi Trwsio Cymru ar Facebook ac fe wnawn nhw eu gorau i sicrhau bod rhywun ar gael i drwsio eich eitem.

Mae bob amser croeso i fwy o drwswyr - dewch draw i weld beth sy’n digwydd yma, a soniwch wrth eich ffrindiau.

Prisiau:

FREE | AM DDIM

There is no need to book, and admission is free. 

Does dim angen archebu, ac mae mynediad am ddim.

Tocynnau ac Amseroedd