
Gofod newydd a chynhwysol yng Nghaerdydd yw Dim Ond Dawnsio! ar gyfer symud ffurf rhydd a dawns ymwybodol. Does dim angen profiad o symud na dawns, mae croeso i bawb!
Mae hwn yn lle diogel di-feirniadaeth, lle gallwch adael fynd, mwynhau, mynegi eich hunan, cysylltu gydag eraill, a mwynhau cymuned. Os ydych chi awydd bŵgi ar nos Wener, neu chwysu ar fore Sul, mae Dim Ond Dawnsio! yn cynnig gwledd o felodïau moethus a grŵfs dwfn o bob rhan o’r byd i’ch ysbrydoli, i godi calon, a’ch symud.
Cylch agor – cynhesu i fyny dan arweiniad – dawnsio – gorffwys – myfyrdod sylfaenu – cylch cau.
Dewch â photelaid o ddŵr, blanced, a gwisgwch ddillad cyfforddus i symud.
Pryd a ble:
Nos Wener 13 Mai 7-9pm, Stiwdio Ddawns
Dydd Sul 5 Mehefin 11am-1pm, Stiwdio Seligman
Nos Wener 24 Mehefin 7-9pm, Stiwdio Seligman
Dydd Sul 3 Gorffennaf 11am-1pm, Stiwdio Ddawns
Nos Wener 5 Awst 7-9pm, Stiwdio Seligman
Maw 2 Tach 2021 - Mer 2 Tach 2022
Llun 16 Mai - Llun 19 Rhag
Gwen 1 Gor, Gwen 15 Gor, Gwen 5 & Gwen 19 Awst
Sul 10 Gor, Sul 14 Awst, Sul 11 Medi, Sul 9 Hyd & Sul 13 Tach