
Rydyn ni’n cynnig ystod anhygoel o ddosbarthiadau yma yn Chapter – o Gerddoriaeth Mwnci i fabanod i Lindy Hop, bale a tap, dosbarthiadau actio Cymraeg i bobl ifanc, ac ystod o hyfforddiant crefft ymladd i bobl o bob oed.
Mae llwyth o bethau i’ch difyrru chi a’ch teulu, ac os ydych chi’n gollwng rhywun mewn dosbarth, beth am aros o gwmpas i ymlacio yn ein caffi bar a defnyddio’r cysylltiad di-wifr, neu wylio ffilm?
I weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael ar hyn o bryd, llwythwch y wybodaeth i lawr yma. Neu, os oes gennych ddiddordeb mewn cysylltu â’n tîm i drefnu dosbarth, gallwch e-bostio hires@chapter.org.
Gwen 20 Ion, Gwen 3 Chw, Gwen 17 Chw, Gwen 3 Maw, Gwen 17 Maw, Gwen 7 & Gwen 21 Ebr