
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Alain Guiraudie
- Tarddiad France
- Blwyddyn 2024
- Hyd 1h 44m
- Tystysgrif 15
- Math Film
Ffrangeg gyda isdeitlau Saesneg.
Ym mhentre bach Saint-Martial yn Occitainie, mae’r pobydd lleol, sydd â siop yng nghanol y pentre, yn marw, gan ddenu ei protégé, Jérémie, ’nôl i dalu teyrnged iddo. Mae Jérémie yn aros yn hir wedi’r angladd, ac yn dechrau ymwreiddio yn nheulu ei fentor, sy’n cynnwys ei weddw annwyl Martine a’u mab blin Vincent, gan ailgysylltu â phobl o’i orffennol. Caiff amwyseddau clymog cariad a marwolaeth eu harchwilio yn y ffilm gyffro finiog, sinistr a thwyllodrus o ddoniol gan Alain Guiraudie (Stranger by the Lake), sy’n creu byd cnawdol tawel lle gall trais ffrwydro gyda’r sbarc lleiaf.
Rhaghysbysebion a chlipiau
More at Chapter
-
- Film
Mr Burton (12A)
The moving story of how wild Richie Jenkins became one of the greatest actors in the world.
-
- Film
David Lynch: The Elephant Man (12A)
Golwg teimladwy ar fywyd John Merrick a’r bobl a gymerodd fantais arno.
-
- Film
Two Strangers Trying Not To Kill Each Other (15)
Ffilm ddogfen ddewr a phersonol am gwpl yn ymdrin â heneiddio a’r broses greadigol.