Performance
Matt Green
Nodweddion
Taith genedlaethol gyntaf y dyn yna (@mattgreencomedy) rydych chi wedi’i weld ar Twitter yn bod yn ddoniol am wleidyddiaeth. Sioe stand-yp yn cynnwys jôcs am wleidyddiaeth a jôcs nad ydyn nhw am wleidyddiaeth. Dyna’r cyfan.
Mae Matt wedi denu miliynau o bobl at ei fideos comedi dychanol ar-lein ers iddo ddechrau eu creu nhw yn ystod y cyfnod clo. Mae hefyd wedi bod yn perfformio
comedi stand-yp ers bron i ugain mlynedd, a dyma ei sioe gyntaf ers i wallgofrwydd Covid/Johnson/Truss/Pwy-a-ŵyr-beth-arall ddechrau.
Gwyliwch e’n trio gwneud synnwyr o’r byd wrth i ni ddechrau blwyddyn arall o etholiadau, rhyfeloedd diwylliant, a phwy a ŵyr beth arall. Darganfyddwch hefyd: pwy yn union yw’r dyn tu ôl i’r fideos?
Efallai y bydd ymddangosiad gan Weinidog Torïaidd – os gall Matt fforddio ei gyfradd ddyddiol.
Mae wedi ymddangos ar Late Night Mash, Avoidance, The Witchfinder, Mrs Sidhu Investigates, Times Radio, Oh God What Now? a llawer mwy.
“Mae sylwadau Green ar abswrdiaeth bywyd go iawn yn gwneud i ni chwerthin o’r dechrau i’r diwedd” ***** (Views from the Gods)
"Green yw diffiniad y digrifwr dymunol... mae’n amhosib peidio ffeindio rhywbeth i chi yn y sioe, sy’n aros yn gyfoes heb bregethu... awr o chwerthin ar gyflymder da... Fe adawon ni â gwên fawr ar ein hwynebau." **** (Broadway Baby)
***** (Stewart Lee - am fideos ar-lein Matt
More at Chapter
-
- Performance
Dan Johnson: Ecstatic Drum Beats
Ecstatic Drum Beats brings young people together for a series of 10 experimental percussion and performance workshops to explore and celebrate our collective creative potential.
-
- Performance
Making Merrie (A Modern Mummers Play, with Baskets)
Perfformiad sy'n addas i'r teulu, Making Merrie yn dathlu Hen Galan, y Flwyddyn Newydd Hen Gymraeg.
-
- Performance
A Year of Deep Listening: Performance and Book Launch
Ymunwch â ni mewn penwythnos o weithgarwch wedi’i guradu gan yr artist preswyl a’r hwylusydd Gwrando Dwfn,Dan Johnson, i ddathlu cyhoeddi A Year of Deep Listening.
-
- Performance
Wet Mess: TESTO
In TESTO, Wet Mess wet-messifies transitions, testosterone and the edges of drag.