Film
Mapantsula + recorded Q&A (15)
- 1h 43m
Nodweddion
- Hyd 1h 43m
- Math Film
De Affrica | 1988 | 103’ | 15 | Oliver Schmitz | Zulu, Sotho, Afrikaans gydag isdeitlau Saesneg | Thomas Mogotlane
Gangster graddfa fach yw Panic, sy’n credu ei fod yn deall popeth. Ond buan mae’n mynd yn sownd yng ngwe’r awdurdodau, ac yn cael ei wthio i fradychu’r chwyldroadwyr sy’n brwydro dros newid.
Yn fwy na stori drosedd afaelgar, mae Mapantsula yn gyfle gwyrthiol bron i ddeall De Affrica o’r tu mewn yn ystod ei brwydr dros ryddid, gan ganolbwyntio ar y dewisiadau a gynigir i Panic gan system sydd wedi’i chreu i’w ddad-ddyneiddio. Yn radical, yn hanfodol, yn ddynol ac yn ddi-farnais, dyma glasur o ffilm guerilla a gynhyrchwyd o dan sensoriaeth eithafol wrth osgoi’r awdurdodau. Mae’r ffilm nodwedd brin wrth-apartheid yma’n nodi 30 mlynedd ers Diwrnod Rhyddid De Affrica yn 2024.
+ Sesiwn holi ac ateb gyda'r actor Thomas Mogotlane yn dilyn y ffilm