Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Ali Kalthami
- Tarddiad Saudi Arabia
- Blwyddyn 2023
- Hyd 1h 50m
- Tystysgrif 15
- Math Film
Saudia Arabia | 2023 | 110’ | 15 | Ali Kalthami | Arabeg gydag isdeitlau Saesneg | Mohamad Aldokhei
Yng nghanol Riyadh, lle mae anobaith a chyfle yn gwrthdaro, mae Fahad Algadaani yn gweld ei fyd yn dymchwel dan bwysau baich ariannol a difaterwch cymdeithasol.
Mae’n dod o hyd i swydd fel mandoob (gair Arabeg am gludwr), a thrwy gyfarfyddiad annisgwyl, mae’n darganfod is-fyd tywyll y ddinas, sy’n ffynnu ar ddelio anghyfreithlon a gweithgareddau troseddol. Mae Fahad yn cael cynnig peryglus sy’n addo datrys ei holl broblemau ariannol. Ond eto, mae’r cyfle cyffrous yma’n dod â chost fawr, a allai beryglu ei bwyll bregus. Dyma daith gyffrous a chyfle prin i weld ffilm o Saudi Arabia.