Performance

MALTHUS with support from May Swoon

  • 4h 20m

£10 - £12

Nodweddion

  • Hyd 4h 20m

Ymunwch â ni mewn perfformiad hedonistaidd sy’n pontio genres o albwm gyntaf y cyfansoddwr a’r cynhyrchydd Mathlus, sy’n uno R&B amgen, dawns electronig a diwylliant rêf. 

Artist o Gaerhirfryn yw Malthus, ac mae’n gweithio gyda cherddoriaeth, ffilm a symudiad. Mae e newydd werthu pob tocyn i’w sioe gyntaf fel prif act yn Llundain, wedi perfformio ar y prif lwyfan yng Ngŵyl Ideal Trouble Paris, a rhyddhau EP weledol a gyfarwyddwyd ganddo, CONVULSIONS, gyda chylchgrawn Hunger; mae Malthus yn gerddor newydd dawnus ar sîn danddaearol Llundain.  

Mae cerddoriaeth Malthus yn eistedd ar y croestoriad rhwng R&B amgen a cherddoriaeth ddawns electronig. Mae’n diolch i’w fagwraeth dosbarth gweithiol, diwylliant rêf, a chyntefigedd fel pwyntiau cyfeirio cryf i’w waith – gan ddefnyddio sinematogaffi troellog a symudiadau datgysylltiedig i ffurfio byd clyweledol swrrealaidd. Mae ei waith yn cwestiynu mynegiannau o chwant a thrais – gan droi cerddoriaeth gerddorfaol ac electronig yn berfformiadau mynegiannol ac eneidiol, gan arwain at sylw rhyngwladol.  

Malthus yw sylfaenydd Stiwdio Littledoom a Label Littledoom, sy’n cael eu rhedeg gyda Sid Quirk a Mercedes666, ac mae hefyd yn cyd-gynhyrchu partïon LAZARUS yn Llundain. Maen nhw wedi perfformio ar draws Prydain ac Ewrop, ac wedi dangos gwaith drwy BBC6, KCRW, Cylchgrawn Fact, Dazed and Confused, Hunger, F-Word, Kaltblut, Fuuuucking Young, a Chylchgrawn GATA. Mae eu cyweithiau nodedig yn cynnwys Rick Owens, Blackhaine, Rainy Miller, Charles Jeffrey, Matt Lambert, Tim Walker, Armani a Jimmy Choo. 

+ Cefnogaeth gan May Swoon 

May Swoon yw peiriant creu sŵn unigol yr artist amlochrog Neo Ukandu. Gan wyrdroi ac arbrofi gyda throsiadau cerddoriaeth bop hiraethus yr wythdegau a’r nawdegau, maen nhw’n ychwanegu sglein metelaidd trwchus a chwareus at eu cerddoriaeth sy’n llenwi eich llygaid a’ch clustiau gydag arogl byd arall.

Share

Times & Tickets