
Nodweddion
- Hyd 2h 0m
- Math Music
Gan ddathlu cyhoeddi eu cywaith cyntaf, Contact (TBC Editions), mae Chapter yn croesawu Maggie Nicols a Dan Johnson ’nôl. Mae’r byrfyfyrwyr yn dod o ddwy genhedlaeth wahanol, ond yn rhannu dull dewr o gydweithio sy’n seiliedig ar ffurfiau radical o gymunoldeb ac arfer a gwleidyddiaeth gwrando dwfn.
Mae llais, piano a dawnsio tap Maggie yn uno â dronau gong a rhythmau taro Dan, gan greu canlyniadau dwys.
Mae tocynnau bargen gynnar ar gael tan 6 Mehefin. Defnyddiwch y cod EARLYBIRD6 ar y cam talu.
___
Lleisydd, dawnsiwr a pherfformiwr chwedlonol o’r Alban yw Maggie Nicols. Ers y 1960au, mae hi wedi bod yn ffigwr allweddol yn y sîn byrfyfyr rhydd, gan gynnwys fel rhan o Spontaneous Music Ensemble gyda John Steven, y bu iddi ymuno â nhw yn 1968, band 50 aelod Keith Tippett, Centipede (gyda Julie Tippetts, Zoot Money, Phil Minton, Robert Wyatt, Dudu Pukwana ac Alan Skidmore), fel sylfaenydd y Feminist Improvising Group gyda Lindsay Cooper, a’r triawd dylanwadol Les Diaboliques gydag Irene Schweizer a Joelle Leandre, yn ogystal â nifer di-ri o grwpiau a chydweithrediadau eraill ledled y byd. Yn ffeminydd ymroddedig, mae llawer o’i gwaith wedi ceisio hyrwyddo menywod ym myd cerddoriaeth fyrfyfyr, dawnsio a chelfyddydau creadigol eraill, yn bennaf drwy gynnal gweithdai fel y rhai yn Theatr Oval House yn y saithdegau, a Contradictions, sef grŵp gweithdy perfformio i fenywod a ddechreuodd ym 1980.
Offerynnwr taro yw Dan Johnson sy’n gweithio ym maes sain fyrfyfyr a chyfansoddi estynedig. Gan danseilio syniadau confensiynol am ddrymio, mae ei waith arbrofol yn ymddangos ar draws ystod eang o brosiectau; o waith byrfyfyr unigol wyth awr yn ymateb i gyfarwyddiadau a ddarperir gan y gynulleidfa, i berfformiadau gwahoddiad yn unig mewn twneli rheilffordd, lifftiau a thai bach cyhoeddus, i brosiect byrfyfyr y grŵp anhierarchaidd Ecstatic Drum Beats. Yn rhedeg trwy’r allbwn amlochrog hwn mae’n edrych yn gyson ar gydbwyso siawns a rheolaeth, gan ddatgelu’r berthynas rhwng y perfformiwr a’r gynulleidfa, a gofynion disgyblaeth a dygnwch corfforol. Gyda gwreiddiau dwfn yn sîn DIY Bryste, lle bu, ymhlith ei gydweithrediadau di-ri, yn rhan sefydlog o bwerdy byrfyfyr eang Dali de Saint Paul, EP/64, mae Dan wedi dod â’r un ysbryd agored at waith byw a gwaith wedi’i recordio, gydag artistiaid fel Moor Mother, Ximena Alarcon, Valentina Magaletti, Rattle, Yama Warashi, GNOD a Surgeon.
Times & Tickets
-
Dydd Gwener 27 Mehefin 2025