Performance

Love Apparently

  • 1h 45m

Nodweddion

  • Hyd 1h 45m

Mae ugain mlynedd wedi bod ers i ffilm Richard Curtis, Love Actually, gael ei rhyddhau, ac mae’r cwiars yn barod i ymosod arni. Yn Love Apparently, bydd criw o adlonwyr LHDTCRhA+ lleol yn addasu ac yn perfformio nifer o straeon o’r ffilm annwyl!

Yn serennu ac wedi’i ddyfeisio gan enillydd Drag Idol 2023, Fruit ’n Fibre, mae’r cast hefyd yn cynnwys actau cwiar anhygoel fel y ddigrifwraig boblogaidd o Ŵyl Cyrion Caeredin Leila Navabi; seren TikTok ac S4C, Catrin Feelings; y gantores-gyfansoddwraig, Asha Jane; y brenin drag, Justin Drag a’r frenhines drag, Marmalade.

Share