Film

Lone Star (15)

  • 2h 15m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 2h 15m
  • Math Film

UDA | 1996 | 135’ | 15 | John Sayles | Chris Cooper, Elizabeth Peña, Matthew McConaughey, Kris Kristofferson, Miriam Colon

Pan fydd sgerbwd yn cael ei ddarganfod yn yr anialwch, mae Sam Deeds, heddwas a mab i siryf arwrol lleol, yn dechrau ymchwiliad a fydd yn arwain at oblygiadau iddo fe’n bersonol ac i Rio gyfan, ardal sy’n dal i ddelio â’i hanes o drais hiliol.

Pan fydd Sam yn cwrdd unwaith eto â Pilar, ei hen gariad o’r ysgol uwchradd, daw’n amlwg na all cyfrinachau o’r gorffennol aros wedi’u claddu am byth. Mae ffilm feistrolgar Sayles, sydd â chast ensemble gwych, yn mynd ati’n dawel i wyrdroi mythau cenedlaethol ac yn datgelu’r craciau sydd mewn bywyd ar y ffin.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share