i

Hosted at Chapter

Little Hands Big Change

Nodweddion

  • Math Children/Family

AM DDIM. Nid oes angen archebu lle. Galwch heibio o 10.30am-2.30pm, ystafell Peilot.

Dwylo bach, newid mawr - dewch i beintio, chwarae a phrotestio dros Balestina.

Mae croeso i bawb - ymunwch â Merched Cymru dros Gaza, Rhieni ac Athrawon dros Balestina, a PSC Caerdydd wrth i ni gynnal diwrnod o weithgareddau galw heibio hwyliog, rhad ac am ddim i bawb a hoffai ddod o hyd i ffyrdd cyfeillgar i deuluoedd o ymgysylltu â diwylliant Palestina a'r hyn sy'n digwydd yno ar hyn o bryd.
Bydd hwn yn ddathliad llawen o ddiwylliant, yn addas ar gyfer plant a theuluoedd o bob oed. Bydd dawnsio, amser stori, celf a chrefft, a mwy.

Does dim rhaid i chi wybod unrhywbeth am Balestina i allu ymuno â ni - bydd hwn yn ofod agored a chroesawgar i bobl ddod at ei gilydd, i ddarganfod mwy, ac i baentio, chwarae a phrotestio.

Mae ein rhaglen Cynnal yn Chapter yn cael ei chyflwyno gan ein cymdeithion creadigol a’r gymuned leol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi lle yn Chapter ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r tîm Llogi.

Share