Film

BFI London Film Festival 2024: That Christmas

  • 1h 31m

Nodweddion

  • Hyd 1h 31m

Prydain | 91' | Simon Otto | Brian Cox, Fiona Shaw, Jodie Whittaker, Bill Nighy, Rhys Darby

Yn seiliedig ar y drioleg o lyfrau plant gan yr awdur/cyfarwyddwr clodwiw, sy’n hoff gan bawb, Richard Curtis (Four Weddings and a Funeral, Notting Hill, Love Actually, Yesterday), mae That Christmas yn dilyn cyfres o straeon cysylltiedig am deulu a ffrindiau, cariad ac unigedd, a Siôn Corn yn gwneud camgymeriad mawr, heb sôn am lwyth o dwrcïod!

Y ffilm gomedi dwymgalon yma gan Locksmith Animation yw cam cyntaf Richard Curtis i fyd animeiddio, fel awdur a chynhyrchydd gweithredol y ffilm, a dyma hefyd yw ffilm nodwedd gyntaf y cyfarwyddwr Simon Otto, sy’n hen law adnabyddus ym myd animeiddio (Love, Death & Robots, How to Train Your Dragon). Mae Nicole P Hearon (Moana, Frozen) ac Adam Tandy (The Thick of It, Detectorists) yn gynhyrchwyr.

Share