Film
BFI London Film Festival 2024: Joy (12A)
- 1h 53m
Nodweddion
- Hyd 1h 53m
Prydain | 113' | Ben Taylor | Thomasin McKenzie, James Norton, Bill Nighy
Mae Joy yn adrodd stori wir nodedig tu ôl i enedigaeth arloesol Louise Joy Brown ym 1978, sef ‘babi tiwb prawf’ cyntaf y byd, a’r daith ddiflino dros ddeng mlynedd i’w gwneud yn bosib. Caiff ei hadrodd o safbwynt Jean Purdy, nyrs ifanc ac embryolegydd a ymunodd gyda’r gwyddonydd Robert Edwards a’r llawfeddyg Patrick Steptoe i ddatgloi pos anffrwythlondeb drwy arloesi ffrwythloni in vitro (IVF).
Mae’r ffilm yn dathlu pŵer dyfalbarhad a rhyfeddod gwyddoniaeth wrth iddi ddilyn y triawd anghonfensiynol llawn gweledigaeth a lwyddodd, yn groes i’r disgwyl a’r gwrthwynebiad, i wireddu eu breuddwyd, a thrwy hynny galluogi miliynau o bobl i freuddwydio gyda nhw.