Performance

Laure Boer + Randox Trio

  • 2h 30m

£10 - £12

Nodweddion

  • Hyd 2h 30m
  • Math Music

16+ | 2awr 50 mun | Sefyll

Gan gynnig byrfyfyrio hypnotig gydag offerynnau traddodiadol, gwrthrychau electronig DIY/electro-acwstig a llais, mae Boer yn creu bydysawd bywiog sy’n fregus ac yn frwnt. 

Ynglun â'r artistiaid...

Mae Randox Trio yn cyflwyno ffug-jazz a rhyfela-seicig gan y ffyliaid o Gaerdydd, Xavier Boucherat, Pam Rose Cott a Luke Robinson.

Artist sain ac aml-offerynnwr sy’n byw yn Berlin yw Laure Boer, sydd wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth sŵn a gwerin traddodiadol. Mae Boer wedi gweithio gydag i.a. Rabih Beaini, Marie-Louise Andersson, Diane Barbé, DJ Die Soon, Luise Volkmann a llawer un arall, ac mae wedi gwneud sawl preswylfa fel Nusasonic yn Manila/PH (CTM/Goethe Institut/Musicboard Berlin), a Sound Art Lab yn Denmarc, sef sefydliad yn hen labordai Bang&Olufsen. Mae hi wedi chwarae yn Berlin Atonal, Gŵyl WSK/PH, y dokumenta fifteen, yn ARTE TV ac wedi teithio ledled Ewrop yn unigol ac mewn clystyrau amrywiol o ddau neu dri. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi gan labeli Kashual Plastik, Chinabot, Otomatik Muziek, ac mae hi wedi ymddangos ar y casgliad Below the Radar gan gylchgrawn The Wire, Radio’r BBC ac NPR. 

Randox Trio: ffug-jazz a rhyfela-seicig gan Xav, Pam a Luke o Gaerdydd. Mae’r hyn ddechreuodd fel trafodaeth anwybodus a rhyfelgar am ofal iechyd preifat wedi dod, yn anffodus, yn gyfrwng i’r tri suddo’u dannedd mewn cwestiynau pellach: beth os mai cerddor sy’n byrfyfyrio yw ci? Ydy toms llawr yn teimlo poen? Ydy’r acwsteg yn y tŷ bach yna’n wirioneddol dda, neu fi sy’n dychmygu pethau? Mae eu gwaith hyd yma wedi cynnwys twrw rhythmig swnllyd, electroneg-rêf doredig, naws diwydiannol affwys, sacs trist, a thriniaethau defodol o le ac amgylchfyd, oll gyda’r nod o arosod un realiti gwirion ar un arall. 

Cerddor ac awdur sy’n byw yng Nghaerdydd yw Xavier Boucherat, ac mae hefyd yn breswylydd yn SHIFT. Yn ogystal â phrosiectau eraill fel Beauty Parlour, The Panama Papers a Randox Trio, mae’n rhedeg Sgarab Tapes – label tâp a digidol ar gyfer Dead Serious Gear – ac mae’n ysgrifennu cylchlythyr am gerddoriaeth ryfedd yng Nghaerdydd.

Artist amlddisgyblaethol yw Pam Rose Cott sy’n gweithio gyda sain, lleisiau byrfyfyr, ysgrifennu a thecstilau. Mae ei gwaith unigol yn plethu barddoniaeth, cân, recordiadau maes, synth ac ystod o offerynnau, gyda’i gilydd. Mae’n gwyrdroi syniadau modern ynghylch diben gofodau myfyriol, gan ddangos sut gallan nhw ein helpu ni i archwilio a phrosesu gwirioneddau a hanesion anodd gyda’n gilydd.   

Share

Times & Tickets

Digwyddiadur - cipolwg

Gweld ein byw rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!
Gweld mwy