
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Alonso Ruizpalacios
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 2024
- Hyd 2h 19m
- Tystysgrif 15
- Math Film
Mae Estela’n newydd i Efrog Newydd, ac yn mynd i chwilio am waith yn The Grill, bwyty prysur ar Times Square, gan gwrdd â’r cogydd uchelgeisiol Pedro a’r weinyddes Julia yn ystod prysurdeb amser cinio. Mae breuddwydion ac anobaith yn gwrthdaro yn y cyflymder didostur, sy’n bygwth dinistrio’r bobl sy’n cadw pethau i fynd. Wedi’i llywio gan brofiadau’r awdur-gyfarwyddwr Alonso Ruizpalacios yn gweithio yn Llundain, mae’r addasiad yma o ddrama Arnold Wesker o 1959 yn talu teyrnged i weithwyr mudol sy’n cadw’r ddinas i fynd. Portread clawstroffobig a chyfareddol o fywyd gwyllt, wedi’i saethu mewn du a gwyn cignoeth.
Rhaghysbysebion a chlipiau
More at Chapter
-
- Film
Chapter Moviemaker (adv 18+)
Chapter's monthly showcase of short films and conversations with the filmmakers behind them.
-
- Film
Bad Film Club
Ymunwch â ni mewn dangosiad o erchyllter – fyddwch chi’n methu aros i weld diwedd cyfnod y noson ar ôl hon.
-
- Film
Oh My Goodness! (12A)
Mae grŵp o leianod yn rhoi eu bryd ar ennill ras feicio i achub eu hosbis lleol.
-
- Film
Flow (U)
Mae cath yn uno gydag anifeiliaid eraill yn y chwedl amgylcheddol deimladwy a syfrdanol yma.