Film

Kotatsu Japanese Animation Festival 2024: Millennium Actress

  • 1h 27m

£7 - £9

Nodweddion

  • Hyd 1h 27m
  • Math Film

Japan | 2001 | 87m | PG | Satoshi Kon, Kô Matsuo | Japanese with English Subs

Pan mae’r Stiwdios Ginei adnabyddus yn cau a’r adeiladau ar fin cael eu dymchwel, mae’r gwneuthurwyr ffilmiau Genya Tachibana yn mynd ati i gofnodi yr achlysur hanesyddol hwn drwy gyfweld ag un o sêr mwyaf y stiwdios, sef Chiyoko Fujiwara, sydd bellach yn byw fel meudwy, wedi encilio o’i bywyd blaenorol. Deng mlynedd ar hugain ers iddi encilio o’i hamlygrwydd blaenorol, mae un cwestiwn yn codi o hyd – sef pam wnaeth hi ddod â’i gyrfa i ben a diflannu’n ddisymwth pan oedd hi ar y brig. Tra bod Chiyoko yn adrodd ei hanes, mae Genya a’i ddyn camera yn cael eu tywys ar daith eang trwy lens ei ffilmiau. Mae cyfweliadau ac atgofion, actio a realiti yn pylu’n un tapestri gyfoethog o fywyd hynod nodedig.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share

Times & Tickets