Film

Kotatsu 2024: NCAIA Shorts + Jero

  • 1h 0m

£7 - £9

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m
  • Math Film

Autumn from Antonio Vivaldi “The Four Seasons”

Japan | 2017 | 11m10s | advPG | Wada Atsushi

Mae’r gwaith animeiddio ysbrydoledig hwn yn portreadu gweithgaredddau tymor yr Hydref o amrywiol safbwyntiau bodau dynol ac anifeiliaid, helwyr a’r rhai sy’n cael eu hela, breuddwydion a realiti. Wedi ei osod i Symudiad Yr Hydref, o waith Vivaldi, Y Pedwar Tymor.


In the Big Yard Inside the Teeny-Weeny Pocket

Japan | 2022 | 6m37s | advPG | Yuki Yoko | Japanese with English Subtitles

Amser mae’n culhau mae’n ymledu. Mae’n arnofio ac yn suddo. Mae’n gwahanu ond yn cysylltu. Pan rwy’n meddwl fy mod i’n gwylio nhw, mae nhw, mewn gwirionedd, yn fy ngwylio i. Rhigwm cyfareddol o animeiddio sy’n plethu yr amryw ddyddiau o arsylwi, recordio ac arbrofi.


A Bite of Bone

Japan | 2021 | 9m45s | advPG| Yano Honami | Japanese with English Subtitles

Mae ferch fach yn meddwl yn ôl i’r haf diwethaf gyda’i thad yn ystod ei angladd. Wedi ei osod ar ynys fechan yn Siapan lle ganwyd a magwyd y cyfarwyddwr, mae’r ffilm hon yn archwilio’r berthynas rhwng marwolaeth ei thad a’r storfa fomiau yn y mynydd tu cefn i gartref y teulu.


Estrange

Japan | 2021 | 6m15s |advPG | Sekiguchi Kazuki | Japanese with English Subtitles

Ar y noson cyn ei phriodas, mae ffrind gorau Miyo, a dderbyniodd wahoddiad ganddi i’r parti, yn torri pob cyswllt gyda hi. Wrth sylweddoli bod cyfeillgarwch yn fyr-dymor, mae Miyo yn meddwl yn ôl i’r dyddiau hynny pan roeddynt yn ifanc a llawen.




HIDARI

Japan | 2023 | 5m32s | adv12/15| Kawamura Masashi, Ogawa Iku | Japanese with English Subtitles

Adroddwyd straeon am grefftwr chwedlonol yn ystod Cyfnod Edo, o’r enw Jingoro Hidari. Heddiw, ledled Siapan, canfyddir gerfluniau lu, a honnir i fod yn weithiau gan Jingoro, ac eto does dim unrhyw gadarnhad penodol o’i fodolaeth. Ar ôl colli ei riant maeth a’i fraich dde o ganlyniad i fradychiad ei brentisiaid hŷn mae Jingoro yn cychwyn ar ymgyrch o ddial gyda braich prosthetig mecanyddol a’i fêt, y “Gath Gysglyd.” O fewn dim roedd pobl yn ei alw yn Jingoro “Hidari” oherwydd ei allu i ddefnyddio ei offer gwaith coed yn hynod gelfydd gyda’i fraich chwith yn unig. (Ystyr “hidari” mewn Siapaneg yw chwith). Yn y diwedd, mae Jingoro yn wynebu “Inumaru”, un o’i wrthwynebwyr, a dyma godi llen ar ymladdfa hyd y bedd.


Share

Times & Tickets