Film

Kneecap (18)

  • 1h 15m

£7 - £9

Nodweddion

  • Hyd 1h 15m
  • Math Film

Iwerddon | 2024 | 105’ | 18 | Rich Peppiatt | Mo Chara, Móglaí Bap, DJ Próvaí, Josie Walker, Simone Kirby, Michael Fassbender

Ym Melffast mae’r rapwyr Gwyddeleg, Naoise a Liam Óg, yn cwrdd â JJ, athro ysgol swil ac ymgyrchydd iaith sydd wedi bod yn creu curiadau yn ei garej. Mae’r penillion rap yn adrodd chwedlau am ryw a chyffuriau gydag ochr weriniaethol wrthryfelgar falch, felly er mwyn cadw’i swydd, mae JJ yn gwisgo balaclafa ar y llwyfan, ac mae’r tri’n dod yn ‘Kneecap’. Mae’r ‘low life scum’, fel maen nhw’n cyfeirio at eu hunain, yn llais anufudd i bobl ifanc Gogledd Iwerddon yn dilyn Cytundeb Gwener y Groglith, gyda’u hyder diymddiheuriad a’u hangen dybryd i fynegi eu hunaniaeth. Yn cynddeiriogi radio Iwerddon a gwleidyddion yr Undeb fel ei gilydd, mae tensiynau’n codi gan beryglu rhoi diwedd ar eu breuddwydion. Stori ffyrnig, wefreiddiol a doniol, gyda churiadau hip hop yn pwmpio drwyddi.

Supported by the BFI Audience Projects Fund, awarding National Lottery funding.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share