Film

Killers of the Flower Moon (15)

  • 3h 26m

Nodweddion

  • Hyd 3h 26m

UDA | Martin Scorsese | Leonardo DiCaprio, Lily Gladstone, Robert De Niro, Jesse Plemons

Ar ôl cael eu symud o’u cartref hynafol yn y 17eg ganrif i ddarn o dir yn Oklahoma yr oedd llywodraeth yr UDA yn ei ystyried yn ddigon di-nod, pan mae dyddodion olew yn cael eu darganfod ar ddechrau’r 1920au, mae tynged cenedl yr Osage yn newid unwaith eto. Yn y cyfnod creulon yma yn hanes America, gwelwn y stori drwy lygaid Mollie, menyw Osage, a’i gŵr gwyn Ernest, wrth i aelodau o’r llwyth gael eu llofruddio mewn amgylchiadau amheus a’r FBI i ddod yn rhan o bethau. Mae Martin Scorsese, un o storïwyr mwyaf bywyd yn America, yn dod â’r stori epig yma’n fyw, yn ddrama gangster a gorllewinol ar yr un pryd, ac yn arddangos perfformiadau anhygoel yn un o ddigwyddiadau sinema mwyaf nodedig eleni.

Share