i

Bydd ein cegin ar gau o 6pm heddiw. Diolch am eich dealltwriaeth.

Performance

Keeley Forsyth + cefnogaeth gan Teddy Hunter

  • 2h 20m

Nodweddion

  • Hyd 2h 20m
  • Math Music

Keeley Forsyth
Taith Hand To Mouth

Mae’r gantores glodwiw Keeley Forsyth yn dychwelyd gyda pherfformiad prin a syml, gyda Matthew Bourne ar y piano.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Keeley wedi gweithio gyda sawl cydweithiwr uchel eu parch, gan gynnwys Ben Frost, Colin Stetson, Teho Teardo, Louis Carnell, Gazelle Twin, Evelyn Glennie, Yann Tiersen a Hiro Ama.

Gyda thair albwm glodwiw tu ôl iddi, mae Keeley wedi dod yn berfformwraig flaenllaw â galw mawr amdani, sy’n adnabyddus am emosiwn ei gallu lleisiol sy’n cyffwrdd â’r byw a’i pherfformiad corfforol syfrdanol.

Mae hi wedi gadael marc nodedig ar lwyfannau ledled y byd, gan gynnwys Dark Mofo, Le Guess Who?, LEV, CTM, Unsound, Pitchfork, Rewire a Donaufestival, ac mae hi bellach yn dychwelyd at berfformiad llais pur a phiano.

___

Ynglŷn â'r artistiaid

Cantores, cyfansoddwraig ac actores o Oldham yn Lloegr yw Keeley Forsyth. Ar ôl hyfforddi fel dawnswraig yn y celfyddydau dramatig, mae hi wedi bod yn canolbwyntio ar yrfa gyfochrog fel presenoldeb unigryw a digyfaddawd ym maes cerddoriaeth gyfoes.

Mae Matthew Bourne wedi cael sawl gwobr ac anrhydedd, ac mae ganddo ymagwedd artistig ddyfeisgar ac unigryw wrth adfywio pianos methedig.

Cerddor ac artist sain weledol yng Nghaerdydd yw Teddy Hunter, sy’n gweithio ym maes cerddoriaeth amgen electronig. Mae gwreiddiau ei cherddoriaeth mewn celfyddydau sonig, yr amgylchedd, a’r awyrgylch ymdrochol tyner, gan gyfuno cyfansoddi caneuon Cymraeg a Saesneg ac offeryniaeth draddodiadol mewn perfformiad sail weledol.

Yr hyn mae pobl yn ddweud

“Nobody else is making music, so spectral, elegant and bruised quite like this”

—Loud & Quiet

Share