Performance

Joon Dance: Summer School Showcase

  • 1h 0m

£5 - £10

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m
  • Math Children/Family

Nodwch bod hyn yw tocyn i'r sioe yn UNIG.

Wedi’i chynnal ers 2009, mae ysgol haf flynyddol boblogaidd Joon Dance yn Theatr y Torch yn ehangu i Gaerdydd, lle y bydd Chapter yn ei chynnal. Mae Joon Dance yn canolbwyntio ar gynnig cyfle fforddiadwy i fanteisio ar brofiadau creadigol o safon i gymuned Caerdydd, dan arweiniad artistiaid dawns proffesiynol. Gan weithio gyda thema wahanol bob blwyddyn, ac wedi’i chysylltu â’n prosiectau perfformio proffesiynol, mae’r ysgol haf hon yn gwbl gynhwysol. Ein nod ni yw creu amgylchedd cefnogol a meithringar er mwyn i bobl o bob cefndir a gallu ddod ynghyd, creu a pherfformio gyda ni.

Eleni byddwn ni’n gweithio gyda’r thema "Tu Allan y Tu Mewn", gan ddod â’r awyr agored i mewn i’n stiwdio ni. Byddwn ni’n archwilio gwahanol agweddau ar natur gan droi’r archwilio hyn yn berfformiad ar y diwrnod olaf.

Yn Joon Dance rydyn ni’n hoffi dweud bod gan bawb gorff dawnsiol! Mae ein Hysgol Haf yn ymgorffori hynny - mae croeso i bawb. Byddwn ni’n rhannu’n ddau grŵp yn seiliedig ar oedran, ond byddwn ni’n sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi a’u herio. Ochr yn ochr â’r 4 artist proffesiynol a fydd yn arwain y dosbarthiadau a’r gweithdai, bydd gennym ni hefyd artist cefnogi i helpu unrhyw un ag anghenion mynediad a bydd dehonglydd BSL gyda ni drwy’r wythnos! Bydd dosbarthiadau technegau cyfoes, lle byddwch chi’n dysgu sgiliau symud a geirfa, a sesiynau coreograffi lle byddwch chi’n creu eich symudiadau a’ch syniadau eich hun i’w perfformio yn y sioe ochr yn ochr â’r artistiaid proffesiynol a fydd yn perfformio ochr yn ochr â chi, ein cyfranogwyr.

Archebwch eich lle ar y gweithdai yma: Chapter Summer School | joondance

Oed

Rydyn ni’n derbyn cyfranogwyr o 11 oed ac i fyny, ac rydyn ni’n croesawu oedolion o bob oed.

Jooniers - 11-17 oed

Cymuned Joon - 18-100 oed

Dyddiadau ac amseroedd

Dydd Llun 26 Awst - Dydd Gwener 30 Awst

Dydd Llun - Dydd Iau: 9.30am - 1pm

Dydd Gwener: Cyrraedd 2pm, aros tan amser y sioe. Amser y sioe tua 6:30pm

Cost (fesul cyfranogwr)

Pris safonol: £80

Consesiynau a phrisiau brodyr a chwiorydd: £70 (consesiynau neu ddau aelod o’r un teulu agos). Defnyddio'r côd SIBLING7 am pris brodyr a chwiorydd,

Pris teulu: £65 (lle mae tri neu fwy o aelodau o’r un teulu agos yn archebu lle gyda’i gilydd). Defnyddio'r côd TEULU65 am pris teulu.

Mynediad

Anfonwch e-bost aton ni yn uniongyrchol os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad neu os hoffech chi siarad â ni am unrhyw agwedd ar yr Ysgol Haf nad ydych yn siŵr amdani. Byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu ar gyfer pawb!

Running since 2009, Joon Dance’s popular annual summer school held at Torch Theatre in Milford Haven, is expanding to Cardiff, and we’re delighted to be hosting it here!

Share

Times & Tickets