
Nodweddion
- Hyd 1h 30m
- Math General Entertainment
Sioe gerdd newydd gan Jenny Moore yw Wild Mix, sy’n cynnwys ensemble cwiar o bum canwr, drymwyr, cic-focsiwr, a chôr. Maen nhw’n gariadon, yn gydweithwyr, yn gyd-letywyr, yn gyfeillion. Drwy’r cylch cân chwe-rhan esgynnol, gyda lleisiau haenog, curiadau dwys a straeon teimladwy, mae’n gofyn: sut deimlad yw iachâd?
Wrth ei wraidd mae offeryn unigryw Jenny: bag bocsio tryloyw llawn dŵr gyda hydroffon. Mae’n pwyso 50 cilogram ac yn dyrog fel corff person, ac mae’r bag yn meithrin perthynas sonig bersonol a chorfforol gyda’r bobl yn yr ystafell – gan weithredu fel curiad calon y seinwedd.
Ymunwch â Jenny nos Fercher 7 Mai, 7-9pm, ar gyfer Sing to Stay Alive, gweithdy corawl agored sy’n archwilio themâu’r sioe. Archebwch docyn yma:
__
Diolchiadau
Awdur a Chyfarwyddwr: Jenny Moore
Cyfarwyddwr Symud: Nandi Bhebhe
Dylunio Set a Bag Bocsio: Kit Falck
Cynhyrchu: Lucia Fortune-Ely, Metal & Water
Perfformiwyd gan:
Jenny Moore
Nandi Bhebhe
Bianca Stephens
Luisa Gerstein
Sib Trigg
Zahra Haji Fath
Ali Tehrani
Cymorth datblygu gan F*Choir: Tanya Auclair a Georgia Frost
___
Ynglŷn â'r artist
Cyfansoddwraig, cantores, drymiwr ac artist byw, sydd o Ganada yn wreiddiol, yw Jenny. Mae llais a rhythm yn gyrru ei gwaith cyfansoddi, ac mae adrodd straeon somatig â gwreiddiau dwfn wrth galon ei gwaith ysgrifennu a chyfarwyddo. Mae’r arfer yma’n gweithio o draddodiadau llafar/clywedol, y corff, a rhythm, gyda damcaniaethau bondio cyhyrol a Gwrando Dwfn, ac offer coreograffig ar gyfer tiwnio, synhwyro, ac ehangu cerddoriaeth. Mae’n credu bod cerddoriaeth yn greadur cymdeithasol, yn barod ar gyfer symudiad gwleidyddol. Jenny sefydlodd ac sy’n cyfarwyddo’r côr rhyddhad cwiar: F*Choir, gan gynnig caneuon bachog cymhleth a rhythmig sy’n herio cantorion i fod yn lleiswyr corfforol llawn, gan ymgorffori elfennau taro a thechneg lleisiol estynedig. Mae ei phymtheg mlynedd o brofiad addysgu a hwyluso yn cefnogi ei harddull arwain chwareus a theimladwy.