i

Performance

Jenny Moore - Sing to Stay Alive: gweithdy corawl

  • 2h 0m

£5 - £12

Nodweddion

  • Hyd 2h 0m
  • Math Workshops

Yn seiliedig ar Wild Mix gan Jenny Moore, sef sioe gerdd newydd am ddefodau cwiar ar gyfer goroesi, mae’r gweithdy yma’n cynnig lle i leisio, dirgrynu a phrofi defod cyd-ganu fel mecanwaith goroesi. I unrhyw un y dywedwyd wrthynt am gau eu ceg neu i beidio â bod â ffydd yn eu corff.

Mae’r gweithdy tyner a chreadigol yma’n galluogi cynulleidfaoedd i brofi’r ymarfer tu ôl i’r perfformiad ac mae’n cynnig cyfle i gymryd rhan ym mherfformiad cyhoeddus Wild Mix yn Chapter yr wythnos ddilynol.

Mae’r gweithdy ar agor i bawb, o gantorion proffesiynol, symudwyr, perfformwyr ac artistiaid, i gorau cymunedol, cantorion cawod, neu unrhyw un sy’n dyheu am gael agor eu ceg a chanu.

“Mewn geiriau eraill, rydyn ni’n ymgynnull i ganu/gweld/adeiladu byd. Mae’r cyfnod yn heriol, mae’r cyrff yn ddolurus, mae’r galar yn ddwys.

Rwy’n canu i gael fy ngweld, i fod mewn cymuned, i ymarfer bregusrwydd. I ddweud y gwir. Mae hwn wedi’i wreiddio yn fy stori i fel sylfaenydd a chyd-grëwr F*Choir – sef côr cymunedol ffeministaidd cwiar sy’n cwrdd yn rheolaidd i ymarfer polyffoni ymgorfforedig, gan weithio ar gerddoriaeth bwerus sy’n teimlo’n danbaid yn yr eiliad ac sy’n ein cefnogi ni yn ein bywydau bob dydd.

Drwy gân, byddwn ni’n ymarfer cynnal lle a chael ein cynnal, gan greu ffordd sonig ac ymgorfforedig o ddweud ‘Dw i yma i ti’. A ffordd sonig ac ymgorfforedig o ddweud ‘Iawn. Fe wna i adael fynd.’” - Jenny Moore

Share

Times & Tickets