Film
Jennifer's Body (+ recorded Q&A)
- 2009
- 2h 0m
- USA
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Karyn Kusama
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 2009
- Hyd 2h 0m
- Tystysgrif 15
- Math Film
USA | 2009 | 120' [102' + Q&A] | 15 | Karyn Kusama | Megan Fox, Amanda Seyfried, Adam Brody
Mae Anita ‘Needy’ Lesnicki a Jennifer Check yn ffrindiau gorau er pan oeddent yn blant, er nad oes rhyw lawer ganddynt yn gyffredin. Dechreua Needy amau fod Jennifer yn cadw cyfrinachau, wedi i nifer o’u ffrindiau a’u cyd-ddisgyblion farw dan amgylchiadau amheus.
Dyma glasur cyfoes sy’n denu cynulleidfaoedd, wedi ei hysgrifennu gan Diablo Cody (Juno, Young Adult), a’i chyfarwyddo gan Karyn Kusama (The Invitation, Yellowjackets).
Bydd sesiwn Holi ac Ateb wedi ei recordio gyda Karyn Kusama dan ofal Sarah Williams yn dilyn dangosiad o’r ffilm hon, sy’n cael ei hargymell gan Academi Ffilm BFI. Mae tocynnau i’r dangosiad yn £3 yn unig i bobl rhwng 15 a 25.
Wrth egluro pam y dewisodd hi’r ffilm hon, dywedodd Holly Elms, sy’n gweithio fel Rhaglennydd Ifanc:
Mae Jennifer's Body yn ffilm unigryw, sy’n gwthio ffiniau’r genre. Nid y ferch sy’n dioddef yn y ffilm hon, yn hytrach, hi sy’n achosi'r dioddefaint. Mae'r wedd gwîar, sy’n aml yn thema gefndirol mewn ffilmiau arswyd, yn brif thema ynddi. Rwy’n cofio gwylio’r ffilm hon yn fy arddegau yn fuan wedi dyfodiad MeToo a gwirioni ar dôn ddychanol a hunanymwybodol y ffilm, a sylwi bod merched fel fi yn gallu mwynhau ffilmiau arswyd. Merched cwîar, merched ffeminyddol, a merched sydd yn flêr ac yn ddoniol. Cefais i fy ysbrydoli gan Jennifer’s Body, ac rwy’n siŵr y bydd hi’n parhau i ysbrydoli.
Mae digwyddiadau’r BFI Film Academy Nghymru yn cael eu darparu gan Chapter a’u cefnogi gan gyllid y Loteri Genedlaethol.