Art

Jade de Montserrat: Backgrounding Foregrounding

Free

Nodweddion

  • Math Contemporary Visual Arts

Mae gwaith comisiwn newydd gan Jade de Montserrat yn lledaenu ar hyd ein prif fynedfa. Gan weithio ar y croestoriad rhwng celf ac ymgyrchu, mae’n defnyddio gwaith yr awdur adnabyddus Toni Morrison a’r damcaniaethwr diwylliannol, yr athronydd a’r artist Erin Manning, i siarad am herfeiddiad, goroesiad, ac adeiladu bydoedd newydd gyda’n gilydd.  

___

Ynglŷn â'r artist

Mae Dr. Jade de Montserrat yn gweithio drwy berfformiadau, arlunio, paentio, ffilm, gosodwaith, cerflunwaith, print a thestun. Yn edrych ar strwythurau heriol gofal mewn sefydliadau ac ar y croestoriad rhwng rhywedd, hil, dosbarth a gwladychiaeth, a hynny yn aml yng nghyd-destun bywyd mewn cymunedau gwledig, mae’n creu gwaith celf sy’n archwilio bregusrwydd cyrff, pwysigrwydd cofnodi a chadw hanes, a rhinweddau cyffyrddol a synhwyraidd iaith. Derbyniodd Ysgoloriaeth Sefydliad Stuart Hall i gefnogi ei PhD a datblygiad ei gwaith o safbwynt diaspora Du yng Ngogledd Lloegr. Mae Jade yn Diwtor yn Ysgol Gelf Ruskin, Prifysgol Rhydychen, yn Ddarlithydd Celf Gain yn Slade, Coleg Prifysgol Llundain, ac yn Ddarlithydd Cyswllt yn Central Saint Martins, Prifysgol y Celfyddydau Llundain.

Share

Cefnogi Chapter