Performance

Islet

  • 2h 30m

Nodweddion

  • Hyd 2h 30m

Mae’r arwyr cwlt o Gymru, Islet, yn dod â’u sioe fyw wefreiddiol i Chapter, gan chwarae traciau o’r ôl gatalog a’r albwm o 2023, ‘Soft Fascination’. Maen nhw’n chwarae gydag ysfa ffyrnig i herio, i gofleidio, i gyfathrebu ac i gyffroi. Mae Islet yn dilyn eu llwybr eu hunain, yn llawn syntheseiddwyr â phwls rhythmig, gan greu cydbwysedd cain rhwng ailadrodd, sŵn, a rhamant amser; dyma brofiad o lawenydd drwy gerddoriaeth.

“Y cymysgedd perffaith o arbrofi ac adloniant, gyda’r ymennydd a’r galon yn cael eu swyno ar yr un pryd”
-Stewart Lee

___

Ynglŷn ag Islet

Mae Islet yn cael ei ynganu fel ‘ai-let’, fel y gair Saesneg am ynys fach. Band y bandiau yw Islet, band sy’n gwneud i bobl fod eisiau dechrau band. Maen nhw wedi bod yn chwarae yn ôl eu rheolau eu hunain ers ffurfio yng Nghaerdydd yn 2009, lle cafodd y pedwar aelod eu denu at ei gilydd drwy awydd cyffredin i gadarnhau bywyd drwy wneud sŵn. Ers hynny, maen nhw wedi rhyddhau tair albwm a llond llaw o EPs ar eu label eu hunain, Shape, ac ar Fire Records. Yn 2023, yn ymuno â’r gŵr a gwraig, Emma a Mark Daman Thomas, a’u cyfaill Alex Williams, mae eu brawd John ‘JT’ Thomas. Mae’r aelod sefydlu JT, a oedd yn absennol ar gyfer albwm 2020 ‘Eyelet’, bellach wedi dychwelyd ar y drymiau, gan sefydlogi’r rolau a chynnig cysondeb newydd sbon i’r band sydd wedi bod yn cyfnewid offerynnau cyn hyn. Yr hyn sy’n parhau trwy eu cerddoriaeth yw ynni dwys: rhythmau pwerus gyda symudiadau annisgwyl; geiriau dyfeisgar a chwareus, a lleisiau sy’n newid ffurf o’r ysgafn i’r rhydd

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share