i

Film

Iris ar Grwydr 2025

  • 2h 10m

Nodweddion

  • Hyd 2h 10m
  • Math Film

Gan ddathlu straeon byd-eang a swyn Caerdydd, a bellach yn ei 10fed flwyddyn, mae Iris ynfalch o fod yn mynd ag Iris ar grwydr, gan rannu straeon dilys y gellir cael eu hanwybyddu weithiau gan y brif ffrwd. Mae gennym 7 ffilm mewn dwy raglen arbennig i chi gan gynnwys Teth, comedi Trans yn y Gymraeg a Blood Like Water, stori rymus a thrasig o Balesteina.

Y Gorau o Iris 2024

Sister Wives (15) - Enillydd: 2024 Gorau Ym Mhrydain & Gwobr Cynulleidfa Co-op
Cyf: Louisa Connolly-Burnham. UK, 2024. 28 mun

Mae dwy chwaer wraig sy’n briod â’r un dyn yn dechrau datblygu teimladau am ei gilydd.

JIA (12A) - Enillydd: 2024 Gwobr Rheithgor Ieuenctid
Dir: Vee Shi. Awstralia. 2023. 15 mun.

Mae mam Tsieineaidd alarus yn teithio i Awstralia ac yn cychwyn ar daith ffordd gydag Eric, i gofio am ei diweddar mab. Mae gwerthoedd ceidwadol Ming yn cael eu profi pan mae’n dysgu taw Eric oedd cariad ei mab.

Blood Like Water (15) - Enillydd: 2024 Gwobr Iris
Cyf: Dima Hamdan. Palestina. 2023. 14 mun.

Mae Shadi yn cychwyn ar antur gyfrinachol, ac yn llusgo ei deulu mewn i drap ar ddamwain lle dim ond dau ddewis sydd ganddyn nhw; naill ai cydweithio â meddiannaeth Israel, neu cael eu cywilyddio a’u bychanu gan eu pobl eu hunain.

___

Arwyr, Curiadau Calon, a Glannau Môr

Teth (15) - 2024 Opening Night
Cyf: Peter Darney. Cymru (DU). 2024. 12 mun
Yn dilyn llawdriniaeth, mae Ioan a'i dad yn addasu i'w perthynas newydd fel tad a mab, hynny yw nes bod y ci yn camgymryd teth am degan cnoi.

Where Are All the Gay Superheroes (15) - 2024 Opening Night
Cyf: Tom Paul Martin. DU. 2023. 15 mun
Ffilm sy’n plesio cynulleidfa LHDTQIA +, gan gyfuno elfennau o ffuglen wyddonol, drama a chomedi. Mae'r archarwyr proffesiynol, Sterling a Meridian, newydd orffen achub y dydd (eto) pan yn sydyn, maen nhw'n cael eu hunain mewn eiliad brin ar eu pennau eu hunain. Mae'r siwtiau yn dod i ffwrdd, ond pan fydd hen densiynau a hen elynion yn dychwelyd, mae ein "harwyr" yn dysgu'r gwirionedd tywyll am bwy ydyn nhw go iawn.

Façade (12A) - 2024 Micro Short Award winner
Cyf: Sophia Vi. DU. 2024. 2 mun
Yn dilyn llawdriniaeth i ffemineiddio’i hwyneb, mae menyw drawsryweddol yn ystyried beth mae'n ei olygu i fod yn fyw gan ddefnyddio geiriau araith enwocaf William Shakespeare - 'To be or not to be...'

Boys in the Water (15) Highly Commended, 2024 Iris Prize
Cyf: Pawel Thomas Larue. Ffrainc. 2023. 39 mun
Diwedd yr haf ar arfordir Llydaw. Mae Oscar yn gwahodd ei ffrindiau i dreulio wythnos o wyliau yn nhŷ ei fam-gu a thad-cu. Nid yw wedi bod yn ôl i gartref ei blentyndod ers blynyddoedd – nid ers iddo ddod allan fel bachgen traws. Ar y traeth, mae’r giang yn cwrdd â Malo, dyn lleol golygus, sy hefyd yn draws. Mae’r stori yn ymwneud â’u cyfarfod, a fydd yn troi popeth wyneb i waered.

Cefnogir gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN), a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share